Mae gan y Comisiynydd nifer o ddogfennau i roi cyngor ar arferion da i helpu sefydliadau.
Maent yn cynnig syniadau ymarferol ynghylch sut i fynd ati i gydymffurfio â dyletswyddau iaith statudol, a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad.
Mae'r Comisiynydd wedi cyhoeddi nifer o ddogfennau cyngor arferion effeithiol i helpu sefydliadau. Maen nhw’n cynnig syniadau ymarferol ynghylch sut i fynd ati i gydymffurfio â dyletswyddau iaith statudol, yn ogystal â hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg. O bryd i'w gilydd, bydd y Comisiynydd yn cynnal digwyddiadau addysgol gyda sefydliadau i hyrwyddo cynnwys y dogfennau cyngor hyn.
Dyma'r digwyddiadau diweddaraf:
Safonau recriwtio – arweiniad i sefydliadau cyhoeddus
Dyma ddolenni at recordiad o gyflwyniadau ein siaradwyr gwadd yn ein seminar ar y Safonau Recriwtio oedd wedi’i anelu at unrhyw un sy’n gweithio i sefydliadau sy’n gweithredu dyletswyddau iaith a’r rheiny sy’n gweithio ym maes adnoddau dynol neu â chyfrifoldeb am recriwtio. Bwriad y seminar oedd rhannu canfyddiadau adolygiad diweddar o arferion recriwtio sefydliadau, codi ymwybyddiaeth o ofynion safonau recriwtio a dysgu mwy am arferion rhai sefydliadau penodol. Gellir gweld copi o adroddiad cwmni IAITH: y ganolfan cynllunio iaith yma.
- Kathryn Jones a Iolo Jones (Cwmni IAITH: y ganolfan cynllunio iaith): Prif ganfyddiadau adolygiad o arferion recriwtio ac asesiadau o’r angen am sgiliau yn y Gymraeg
- Fflur Jones (Cyfreithwyr Darwin Gray): Trosolwg o’r sefyllfa gyfreithiol
- Malan Wilkinson ac Osian Prys Elis (Cyngor Gwynedd): Cynllun Yfory a’r rhaglen prentisiaethau
- Emma Scherptong (Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent): Mynd i’r afael â’r heriau
Asesu cyrhaeddiad y strategaethau hybu
Safonau llunio polisi - arweiniad i sefydliadau cyhoeddus
Dyma ddolenni at recordiad o gyflwyniadau ein siaradwyr gwadd yn ein seminar ar y Safonau Llunio Polisi oedd yn anelu i godi ymwybyddiaeth sefydliadau o ofynion y safonau hyni a’u heffaith ar ymdrechion i gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg, ac ar greu cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau pob dydd.