Swyddi gwag cyfredol

Swyddog Cefnogi Rheoleiddio

  • Math o gontract: Tymor Penodol (12 mis)
  • Oriau Gwaith: Llawn amser
  • Cyflog: £30,755 - £34,997 y flwyddyn. Penodir ar waelod y raddfa fel rheol.
  • Dyddiad cau: 12:00, 10 Mai 2026
  • Dyddiad y cyfweliad: wythnos 25 Mai 2026
Llun o swyddog yn gweithio ar gliniadur

Sut i ymgeisio?

Rydym yn derbyn ceisiadau am swyddi drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. Mae’n bwysig bod gan yr unigolion sy'n gweithio i ni lefel uchel o Gymraeg. 

Mae gofyn i bob ymgeisydd lenwi'r ffurflen gais a monitro cydraddoldeb os yw hynny'n bosib. 

Dylech anfon eich ffurflen gais wedi’i chwblhau at  swyddi@cyg-wlc.cymru erbyn y dyddiad a nodwyd ar y disgrifiad swydd. 

Os oes gennych gwestiwn neu ymholiad ynglŷn â gweithio i Gomisiynydd y Gymraeg, cysylltwch â ni.

Merched yn cerdded i lawr y grisiau

Pam ddylech weithio yma?

Ein hamcan yw bod yn weithle cyfeillgar a chynhwysol, ac mae meithrin ymdeimlad agos o gymuned yn flaenoriaeth i ni. Credwn mewn creu amgylchedd gwaith sy’n galluogi aelodau staff ar draws y sefydliad i ddatblygu eu sgiliau, ac i gyrraedd eu llawn botensial.

Block background image

Ffurflen gais a monitro cydraddoldeb

Lawrlwytho