Ar y tudalennau yma gallwch gael mynediad hwylus at rai o’r prif adnoddau sydd ar gael i’n helpu ni ddeall sefyllfa’r Gymraeg: data’r Cyfrifiad ac adroddiadau 5-mlynedd y Comisiynydd.

Pwysigrwydd deall sefyllfa’r Gymraeg
Rydym yn ymgymryd â gwaith ymchwil i sawl agwedd wahanol ar y Gymraeg er mwyn:
-
cynllunio ymyraethau strategol;
-
cefnogi ein gwaith dylanwadu ar bolisi;
-
llunio nodiadau polisi ac ymateb i ymgynghoriadau mewn modd ystyrlon;
-
llunio adroddiadau sy’n dangos sut mae sefydliadau’n perfformio a beth yw profiad defnyddwyr o wasanaethau Cymraeg;
-
cynhyrchu adnoddau i gynorthwyo ac annog sefydliadau, elusennau a busnesau o bob math i ddefnyddio’r Gymraeg;
-
llunio adroddiad statudol bob 5 mlynedd am sefyllfa’r iaith Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rannu gwybodaeth ac adnabod cyfleoedd i gydweithio ar ystadegau ac ymchwil yn ymwneud â’r Gymraeg, lle bo hynny’n briodol.

Sut gall academyddion gyfrannu at waith y Comisiynydd?
Mae ein diddordebau ymchwil am y Gymraeg yn helaeth ac mae ymgysylltu academaidd a chyfnewid gwybodaeth yn gallu bod o fudd i ymchwilwyr academaidd ac i’r Comisiynydd fel ei gilydd.
Os hoffech chi ragor o wybodaeth am ein blaenoriaethau polisi ac ymchwil neu os oes gennych chi waith ymchwil yr hoffech ei rannu â ni, yna cysylltwch â ni.