Mae cynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle yn un o’n amcanion strategol. I gynorthwyo sefydliadau i wneud hynny, rydym wedi creu modelau polisi ar ddefnydd mewnol o’r Gymraeg. Mae’r modelau hyn yn cynnig strwythur i sefydliadau ddatblygu polisïau uchelgeisiol ac effeithiol, gan eu helpu i symud ar hyd continwwm o ddefnydd iaith – o’r sylfaenol i’r arloesol. Maent yn annog sefydliadau i osod amcanion clir, targedau mesuradwy ac uchelgeisiol, ac i ystyried sut i ymgorffori’r Gymraeg yn naturiol yn eu diwylliant gwaith.
Gallwch weld y pecyn modelau polisi yma.
I gefnogi’r modelau polisi, rydym wedi creu cyfres o adnoddau yn seiliedig ar themâu y polisïau defnydd mewnol. Eu bwriad yw cynnig arweiniad a syniadau i sefydliadau ar sut i roi eu polisïau defnydd mewnol ar waith. Y tri thema yw:
Arweinyddiaeth
Mae arweinyddiaeth gref yn bwysig wrth osod disgwyliadau ac arwain drwy esiampl er mwyn creu awyrgylch gadarnhaol tuag at y Gymraeg o fewn sefydliad.
Gweler ganllaw a chymorth i gadeirio cyfarfodydd yn Gymraeg.
Mae nifer o syniadau yn y canllaw hwn gan Gyngor y Celfyddydau.
Seilwaith Gweinyddol
Trwy osod seilwaith gadarn gyda gweinyddiaeth, adnoddau dynol a defnydd o dechnoleg, gallwch hwyluso ac annog mwy o ddefnydd iaith a magu hyder pawb wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae’r safonau yn gofyn bod eich gweinyddiaeth mewnol yn caniatáu i swyddogion ddefnyddio’r Gymraeg wrth ymdrin â materion cyflogaeth. Maent hefyd yn gofyn bod mynediad at dechnoleg yn Gymraeg, ac yn hwyluso defnydd o’r Gymraeg.