Yng Nghymru, dylech fod yn gallu byw eich bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd yn hybu a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae hyn yn cynnwys sicrhau eich bod yn gallu derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gan sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae hefyd yn cynnwys amddiffyn eich rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg gydag unigolion eraill yng Nghymru.
O bryd i'w gilydd fe all pethau fynd o’i le. Rhan o waith y Comisiynydd yw ymchwilio i'r achosion hynny.
Nid oes cost ynghlwm â chyflwyno cwyn i’r Comisiynydd, a bydd pob achos yn cael ei ystyried yn ofalus.
Gallwch gysylltu gyda ni i:
- wneud cwyn os yw sefydliad yn methu cydymffurfio â safonau’r Gymraeg;
- wneud cwyn os yw sefydliad yn methu cydymffurfio â’i gynllun iaith Gymraeg;
- wneud cais i’r Comisiynydd ddyfarnu ar honiad o ymyrryd â’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg.
Rydym yn awyddus i glywed gennych am eich profiadau. Mae cwynion gan y cyhoedd yn ein helpu i gael darlun gwell o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ac yn ein helpu i adnabod beth sydd angen gwella.