Nod ein gwaith polisi yw dylanwadu ar Lywodraeth Cymru a chyrff eraill i sicrhau bod eu polisïau yn arwain at gynyddu’r nifer o bobl sy’n siarad Cymraeg ac yn cael y cyfle i wneud hynny o ddydd i ddydd. Drwy wneud hynny rydym yn cyfrannu at wireddu gweledigaeth strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.
Rydym yn cymryd camau rhagweithiol mewn nifer o feysydd polisi drwy weithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr polisi, llunio argymhellion a rhannu barn a thystiolaeth gyda llunwyr polisi. Byddwn hefyd yn ymateb i ymgynghoriadau gan Lywodraeth Cymru, pwyllgorau Senedd Cymru a chyrff eraill. Mae ein hadnoddau yn golygu ein bod yn ymateb yn bennaf i ymgynghoriadau ar sail genedlaethol, rhanbarthol a sirol.
Gallwch ddarllen isod am ein gwaith dylanwadu ar bolisi mewn nifer o feysydd.

Addysg a sgiliau
Y system addysg a hyfforddiant yw’r prif ddull o greu siaradwyr Cymraeg. Mae’n hollbwysig felly bod cynifer â phosibl o blant yn derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, o’r blynyddoedd cynnar i addysg statudol ac ymlaen i addysg a hyfforddiant ôl-16. Rhaid sicrhau bod polisïau cenedlaethol ym maes addysg a sgiliau yn galluogi mwy o blant a phobl ifanc i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
Dyma ein prif flaenoriaethau:
- cynyddu sgiliau Cymraeg y gweithlu addysg
- hwyluso mynediad at addysg Gymraeg drwy ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a sicrhau trefniadau teithio hygyrch
- gwella’r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) cyfrwng Cymraeg
- gwella’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg ôl-orfodol
- cryfhau cynllunio strategol er mwyn sicrhau dilyniant ieithyddol wrth i unigolion adael y sector addysg a mynd i fyd gwaith
- canolbwyntio ar gynyddu defnydd y Gymraeg yn y gweithle er mwyn cynnal sgiliau Cymraeg pobl ifanc a throi siaradwyr yn ddefnyddwyr tymor hir
Darllen pellach:

Cynllunio a thai, datblygu economaidd a chymunedau Cymraeg
Ein dymuniad yw gweld y Gymraeg yn cryfhau ledled Cymru. I wireddu hyn mae’n allweddol ein bod yn atal dirywiad yn sefyllfa’r Gymraeg yn yr ardaloedd lle mae ar ei chryfaf. Un ffordd o sicrhau hynny yw prif-ffrydio’r Gymraeg mewn meysydd sy’n allweddol i ddyfodol y cymunedau hyn, fel cynllunio, tai a datblygu’r economi. Yr her yw sicrhau bod gan bobl swyddi o ansawdd da, gyrfaoedd deniadol a chartrefi er mwyn iddynt allu aros yn eu cymunedau, neu ddychwelyd iddynt.
Rydym yn ystyried y datblygiadau isod yn flaenoriaeth:
- gweithredu prif argymhelliad adroddiad y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i sefydlu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol dwysedd uwch
- gwella’r sail tystiolaeth sy’n dangos effeithiau datblygiadau economaidd a thai ar y Gymraeg
- ar sail tystiolaeth gadarn, sicrhau bod penderfyniadau am ddatblygiadau economaidd a thai mewn cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn cryfhau sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol
Darllen pellach:

Amaeth
Y diwydiant amaethyddol yw’r sector cyflogaeth â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae busnesau amaethyddol yn cynnal llawer o gymunedau gwledig lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol bob dydd. Mae’n hollbwysig, felly, tyfu a chryfhau’r economi wledig a’r sector amaethyddol a sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei hyrwyddo o fewn y gymuned amaethyddol.
Rydym yn ystyried y datblygiad isod yn flaenoriaeth:
-
sicrhau bod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy sy’n deillio o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 yn cefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg eu hiaith ac yn hyrwyddo a hwyluso defnydd y Gymraeg yn fwy cyffredinol
Darllen pellach:

Diwylliant, darlledu a’r cyfryngau
Mae diwylliant, darlledu a’r cyfryngau Cymraeg yn bwysig i hyfywedd yr iaith, yn economaidd ac yn gymunedol. Maent yn amlygu a normaleiddio’r iaith, yn addysgu a chefnogi siaradwyr wrth ddefnyddio’r Gymraeg ac yn rhoi gwerth i sgiliau Cymraeg yn y gwaith a chynnig cyfleoedd gwaith yn y Gymraeg.
Rydym yn ystyried y datblygiadau isod yn flaenoriaeth:
- rhoi lle canolog i’r Gymraeg wrth hyrwyddo diwylliant mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau, gan gynnwys cymunedau Cymraeg, y gyfundrefn addysg, twf economaidd, twristiaeth, datblygu digidol a chynllunio’r gweithlu
- sicrhau bod trefniadau cyllido’r diwydiant darlledu Cymraeg yn cryfhau ac ymestyn y ddarpariaeth Gymraeg
Darllen pellach:

Iechyd a gofal
Mae gallu defnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau iechyd a gofal yn hollbwysig, yn arbennig gan y bydd pobl yn aml mewn sefyllfa o wendid pan fyddant yn ceisio derbyn y gwasanaethau hynny. Mae gofal yn y Gymraeg yn angen clinigol i nifer, gan gynnwys plant a phobl ifanc, pobl hŷn, pobl sy’n byw â dementia a phobl ag anableddau dysgu a phroblemau iechyd meddwl. Rydym yn dymuno gweld cynnydd yn y cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg â’r sector iechyd a gofal yn gyffredinol ac â’r elusennau sy’n gweithio yn y sector, gan gynnwys pwyslais ar sicrhau bod pobl yn derbyn gofal clinigol yn Gymraeg.
Rydym yn ystyried y datblygiad isod yn flaenoriaeth:
- symud o dderbyn a thrafod y ‘cynnig rhagweithiol’ fel cysyniad polisi, i sefyllfa lle mae’n cael effaith ymarferol ar y ffordd y caiff gofal ei gynllunio, ei ddarparu a’i ariannu, gan arwain at y canlynol:
- cynnydd amlwg yng ngallu’r sector iechyd a gofal i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig mewn meysydd allweddol fel gofal dementia, strôc, anghenion dysgu ychwanegol ac iechyd meddwl
- mwy o’r gweithlu iechyd a gofal â sgiliau Cymraeg priodol, ac ymwybyddiaeth iaith gan bob ymarferwr sy’n gadael hyfforddiant iechyd a gofal a ariennir gan arian cyhoeddus