
Gallwch gysylltu â’r Comisiynydd i gwyno am:
- Ddiffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau
- Anawsterau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- Anfodlonrwydd ynghylch sut mae sefydliad wedi ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau.

Pa wybodaeth sydd ei angen arnom?
Wrth i chi gyflwyno cwyn, rhowch gymaint o fanylion â phosib, sy’n cynnwys:
- Beth ddigwyddodd a phryd
- Pwy oedd y sefydliad cyfrifol
- Sut gawsoch chi (neu’r person yr ydych yn cwyno ar ei ran) eich effeithio
- Unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth berthnasol arall
- Eich manylion cyswllt, ac os yn berthnasol, manylion cyswllt y person yr ydych yn cwyno ar ei ran.

Rhowch wybod i ni os ydych chi eisoes wedi cwyno i'r sefydliad. Bydd hyn yn helpu’r Comisiynydd i wybod os all ystyried eich cwyn.
Os ydych yn cysylltu ar ran rhywun arall, dylech egluro pam eich bod yn cwyno ar ran y person hwnnw. Byddwn angen cadarnhad bod y person hwnnw yn rhoi caniatâd i chi gwyno ar ei ran.