
Rydym yn falch o allu cynnig cyngor i sawl sefydliad yng Nghymru am ba enwau lleoedd y dylen nhw eu mabwysiadu’n swyddogol a sut i hyrwyddo’r enwau pwysig hyn. Dyma enghreifftiau o brosiectau safoni rydym wedi bod yn ymwneud â nhw’n ddiweddar. Cysylltwch â ni os hoffech chi drafod cydweithio ar brosiectau safoni enwau lleoedd.
Enwau tirweddol Parc Cenedlaethol Eryri
Mae Parc Cenedlaethol Eryri wrthi’n cynnal prosiectau i safoni enwau tirweddol Eryri ar y cyd â Phanel Safoni Enwau Lleoedd y Comisiynydd ac Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Cynhaliwyd prosiect peilot yn 2023 i safoni enwau llynnoedd Eryri. Gallwch ddarllen rhagor am y gwaith ar wefan Parc Cenedlaethol Eryri.
Enwau henebion yng ngofal Cadw
Mae’r Panel Safoni Enwau Lleoedd wedi cydweithio â Cadw i lunio rhestr o enwau dwyieithog safonol yr henebion sydd yng ngofal Cadw. Dyma'r enwau a ddefnyddir yn swyddogol gan Cadw yn Gymraeg a Saesneg.
Gallwch ddod o hyd i’r rhestr gyflawn i’w lawrlwytho ar BydTermCymru.