Goruchwylio cydymffurfiaeth
Mae dyletswydd ar sefydliadau i oruchwylio eu cydymffurfiaeth â’r dyletswyddau iaith. Mae’n bwysig bod gan sefydliadau drefniadau cadarn ar gyfer hunanreoleiddio. Mae arolygon y Comisiynydd wedi dangos bod gan y sefydliadau hynny sy’n perfformio orau brosesau cadarn mewn lle i fonitro, gwirio a goruchwylio cydymffurfiaeth.
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi dogfen gyngor yn cynnig dulliau posib o fynd ati i oruchwylio cydymffurfiaeth. Ceir ynddi hefyd enghreifftiau o arferion da sydd wedi profi yn llwyddiannus o fewn rhai sefydliadau.
Adrodd ar gydymffurfiaeth
Mae’n rhaid i sefydliadau cyhoeddus gyhoeddi adroddiad blynyddol sydd yn egluro sut mae nhw wedi cydymffurfio â safonau’r Gymraeg, neu gynllun iaith Gymraeg yn ystod y flwyddyn.
Safonau’r Gymraeg
Rhaid i sefydliadau sydd yn ddarostyngedig i safonau’r Gymraeg gyhoeddi adroddiad blynyddol sydd yn cyflwyno gwerthusiad y sefydliad ei hun o’r modd y mae’n hybu a hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg. Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi dogfen gyngor ar lunio adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg.
Cynlluniau Iaith Gymraeg
Mae pob sefydliad sydd yn gweithredu cynllun iaith Gymraeg wedi ymrwymo i gyhoeddi adroddiad monitro yn flynyddol. Dylai’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am y modd y mae’r sefydliad wedi gweithredu ei gynllun iaith yn ystod y flwyddyn gan adrodd ar gynnydd yng ngweithrediad unrhyw dargedau o fewn amserlen y cynllun. Dylai’r adroddiad hefyd gynnwys dadansoddiad o gwynion sydd wedi eu derbyn ystod y flwyddyn gan adrodd ar nifer a natur y cwynion a’r camau roddwyd mewn lle i ddatrys unrhyw fethiannau.