Gweithdrefn gwyno ac ymchwilio: cynlluniau iaith Gymraeg

Pwy sy’n gallu cyflwyno cwyn? 

Gall unrhyw gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd am sefydliad sy’n gweithredu cynllun iaith Gymraeg ynghylch:  

  • Diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau
  • Anawsterau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
  • Anfodlonrwydd ynghylch sut mae sefydliad wedi ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau 

Os nad ydych mewn sefyllfa i wneud hynny, gall rhywun arall gyflwyno cwyn ar eich rhan. Bydd angen i chi roi eich caniatâd i hynny. 

 

Sut mae cyflwyno cwyn? 

Cyn y gallwch gyflwyno cwyn i'r Comisiynydd, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cwyn yn gyntaf i'r sefydliad rydych yn anhapus yn ei gylch, a rhoi cyfle rhesymol iddo ymateb a chynnig datrysiad.  

Os na fyddwch yn derbyn ymateb, neu’n anfodlon gyda’r canlyniad neu’r broses a ddilynwyd, gallwch gyflwyno eich cwyn i'r Comisiynydd bryd hynny.  

Mae’n rhaid i gŵyn gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig. Gallwch wneud hynny drwy 

Os nad ydych yn gallu cyflwyno cwyn yn ysgrifenedig oherwydd eich amgylchiadau, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, neu unrhyw gyfrwng addas arall i egluro hynny ac i drafod eich cwyn.  Byddwn yn gwneud darpariaeth resymol gan roi cymorth i chi gyflwyno cwyn mewn ffordd arall.  

 

Pa wybodaeth sydd angen i mi ei roi? 

Gofynnwn i chi roi gymaint o wybodaeth â phosib i ni am beth sydd wedi digwydd, gan gynnwys 

  • Pa sefydliad ydych chi’n cwyno amdano
  • Beth ydych chi’n cwyno amdano a disgrifiad  o beth sydd wedi digwydd
  • Dyddiadau ac amser perthnasol
  • Ymateb y sefydliad i’ch cwyn (ble mae’n berthnasol)
  • Tystiolaeth i gefnogi eich cwyn (e.e. lluniau, dogfennau, copïau o lythyrau, rhifau ffôn ayb) 

 

Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno cwyn? 

O fewn 5 diwrnod gwaith byddwn yn: 

  • Cydnabod derbyn eich cwyn
  • Rhoi gwybod i chi a yw eich cwyn yn ddilys neu beidio
  • Os yw’n ddilys, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bellach
  • Cyflwyno eich cwyn i’r sefydliad yr ydych yn cwyno amdano, gan ofyn iddynt ymateb i’r gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith 

 

Beth sy’n digwydd wedyn? 

Ar ôl derbyn ymateb y sefydliad, byddwn yn penderfynu a oes angen i ni agor ymchwiliad i’ch cwyn.  

Oes cyfleoedd eraill yn bodoli i roi sylwadau ar ymchwiliad? 

Rydym yn hapus i dderbyn sylwadau gennych chi a’r sefydliad ar yr ymchwiliad tra bo’r ymchwiliad ar agor. Gallwch wneud hynny drwy gyflwyno eich sylwadau yn ysgrifenedig i post@cyg-wlc.cymru.

 

A fydd gwybodaeth am yr ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi? 

Rydym yn cyhoeddi pob adroddiad ar ymchwiliadau i gydymffurfiaeth  â chynlluniau iaith Gymraeg ar ein gwefan. 

 

Beth os nad ydw i’n gallu ymateb yn ysgrifenedig i wahanol gamau’r ymchwiliad? 

Gallwn drafod pa gymorth neu addasiadau sy’n addas i chi. Er enghraifft, gallwn gynnig: 

  • Dulliau cyfathrebu gwahanol
  • Cymorth ychwanegol
  • Trefniadau penodol yn ôl eich anghenion 

Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 603 3221 neu drwy unrhyw un o’n sianeli cyfathrebu.