Adroddiadau Thematig

Fel rhan o’n cynllun hyrwyddo cydymffurfiaeth, rydym yn ceisio rhannu canfyddiadau gwaith arolygu yn amserol ac yn barhaus drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn cynnig cyfle i gyrff adolygu eu dulliau gweithredu a chryfhau eu cydymffurfiaeth yn unol â’u dyletswyddau iaith.

Rydym yn dadansoddi’r canlyniadau a’u cyflwyno mewn adroddiadau sectorol isod. Mae’r adroddiadau yn amlygu arferion da, yn ogystal â meysydd lle mae lle i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg. Rydym yn annog pob sefydliad i ystyried y canfyddiadau a’r argymhellion a nodir yn yr adroddiadau sydd yn berthnasol iddynt.

Nid yw Rheoliadau Rhif 4 nac 8 wedi eu cynnwys yn yr adroddiadau hyn am y rhesymau canlynol:

  • Rheoliadau Rhif 4: Maint y sampl arolwg yn rhy fach i ddarparu data ystyrlon.
  • Rheoliad Rhif 8: Defnydd isel o’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol, oherwydd bod y sefydliad yn gymwys i eithriad o dan y rheoliadau.

Rheoliadau Rhif 4 – Safon 58
Canfyddiadau allweddol:

  • Archwiliwyd negeseuon ar Facebook a LinkedIn, yn ogystal â phroffiliau sefydliadol.
  • Nodwyd lefel uchel o gydymffurfiaeth, gyda’r Gymraeg yn aml yn cael blaenoriaeth – er enghraifft, drwy ymddangos yn gyntaf mewn negeseuon a disgrifiadau proffil.
  • Roedd fideos yn cynnwys isdeitlau dwyieithog gyda’r Gymraeg yn gyntaf, gan adlewyrchu arfer da.
  • Roedd delweddau’n dangos lefel uchel o gydymffurfiaeth.
  • Nodwyd cyfle i wella drwy sicrhau cyfranwyr Cymraeg ar gyfer cynnwys fideo lle bo hynny'n bosib.

Rheoliadau Rhif 8 – Safon 36
Canfyddiadau allweddol:

  • Nodwyd bod geriad y safon yn rhoi disgresiwn i sefydliadau benderfynu pa gynnwys sy’n berthnasol i Gymru yn unig.
  • Ni welwyd unrhyw enghreifftiau o negeseuon a oedd yn glir yn ymwneud â Chymru yn unig, ac o ganlyniad, roedd defnydd o’r Gymraeg yn brin ar y cyfrifon hyn.
  • Er bod y ddyletswydd statudol wedi’i chyfyngu, anogir sefydliadau i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol fel modd o hybu a hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg eraill.

Os hoffech ragor o wybodaeth am yr arolygon, mae croeso i chi gysylltu â’ch swyddog cyswllt yn Swyddfa’r Comisiynydd. Rydym hefyd ar gael i ymateb i unrhyw ymholiadau.