Rydym yn dymuno gweld sefydliadau yn cymryd camau rhagweithiol i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ar draws eu sefydliadau a’u gwasanaethau – wrth ddatblygu gweithlu sydd a’r sgiliau cywir i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd ac wrth gynnal gweithgareddau i gynyddu defnydd mewnol o’r Gymraeg.
Mae’r Comisiynydd yn datblygu a chyhoeddi adnoddau ymarferol, canllawiau a modelau polisi fydd yn helpu sefydliadau i gynllunio’r hyn y gallant ei wneud i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg eu gweithwyr ac i greu gweithle ble mae’r Gymraeg yn ffynnu.
Bydd arweiniad ar faterion recriwtio a fydd yn gwella eich gallu i gynnig gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd, ac arweiniad ar roi cyfleoedd i staff gynyddu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn y gweithle.
Mae’r syniadau yn addas i bob math o sefydliad yng Nghymru. Mae cefnogaeth benodol ar gyfer elusennau neu gwmnïau preifat gan y tîm hybu.