Os ydych chi’n dymuno cyfathrebu yn Gymraeg gydag pherson arall (e.e. drwy siarad neu ysgrifennu), dylech fedru gwneud hynny heb ymyrraeth. .
Mae rhywun yn ymyrryd â’ch rhyddid os ydyn nhw'n:
- Dweud wrthych am beidio defnyddio’r Gymraeg;
- Dweud y byddwch yn dioddef mewn rhyw ffordd oherwydd eich bod yn defnyddio’r Gymraeg.
Gallwch ofyn i'r Comisiynydd ymchwilio i a yw person neu sefydliad wedi ymyrryd â’ch rhyddid i gyfathrebu gydag unigolyn arall yn Gymraeg. Mae’n rhaid i chi wneud hynny’n ysgrifenedig, ond os nad ydych mewn sefyllfa i wneud hynny, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn i drafod.
Gallwn ystyried ymchwilio i unrhyw berson neu sefydliad. Mae hyn yn cynnwys busnesau ac elusennau yn ogystal â sefydliadau cyhoeddus.
Pa wybodaeth ddylech chi roi wrth gysylltu?
- Disgrifiwch beth sydd wedi digwydd
- Dywedwch pwy oedd yn gyfrifol am ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg
- Rhowch unrhyw dystiolaeth neu wybodaeth berthnasol arall.
Beth fydd yn digwydd wedyn?
Byddwn yn cydnabod derbyn eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith ac yn rhoi gwybod i chi a yw eich cais yn ddilys (h.y. yn fater mae gennym y pŵer i ymchwilio iddo). Byddwn wedyn yn cysylltu â’r person / sefydliad dan sylw er mwyn rhoi’r cyfle iddyn nhw ymateb.
Ar ôl derbyn ymateb, byddwn yn penderfynu ymchwilio i'r mater neu beidio. Os na fyddwn yn ymchwilio, byddwn yn egluro ein rhesymau am hynny.
Os byddwn yn ymchwilio, byddwn yn mynd ati i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth gennych chi a’r person / sefydliad dan sylw, cyn paratoi adroddiad yr ymchwiliad. Bydd yr adroddiad yn cynnwys:
- Penderfyniad a oedd ymyrraeth wedi digwydd neu beidio
- Barn y Comisiynydd ar beth ddigwyddodd
- Cyngor, ble mae’n berthnasol, i'r person / sefydliad dan sylw neu i chi ynghylch yr ymyrraeth neu faterion sy’n ymwneud â’r achos
Bydd adroddiad drafft yn cael ei rannu gyda chi a’r person / sefydliad dan sylw, a bydd cyfle i chi roi sylwadau ar yr adroddiad a phenderfyniad y Comisiynydd. Ar ôl ystyried unrhyw sylwadau, byddwn yn cyflwyno’r adroddiad terfynol i chi a’r person / sefydliad dan sylw.
Mae'n bosib y byddwn yn rhoi copi o’r adroddiad i Weinidogion Cymru, ac y byddwn yn cyhoeddi’r adroddiad (neu grynodeb ohono) ar ein gwefan.
Mae croeso i chi gysylltu os ydych chi’n credu fod rhywun wedi ymyrryd yn eich rhyddid chi.