Pwy sy’n gallu cyflwyno cwyn?
Gall unrhyw un gyflwyno cwyn i’r Comisiynydd am sefydliad sy’n dod o dan safonau’r Gymraeg ynghylch:
- Diffyg cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg wrth dderbyn gwasanaethau
- Anawsterau wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn y gwaith
- Anfodlonrwydd ynghylch sut mae sefydliad wedi ystyried y Gymraeg wrth wneud penderfyniadau.
Os nad ydych mewn sefyllfa i wneud hynny, gall rhywun arall gyflwyno cwyn ar eich rhan. Bydd angen i chi roi eich caniatâd i hynny.
Sut mae cyflwyno cwyn?
Mae’n rhaid i gŵyn gael ei chyflwyno yn ysgrifenedig. Gallwch wneud hynny drwy
- Ffurflen gwyno
- Anfon e-bost at post@cyg-wlc.cymru
- Cyfryngau cymdeithasol
- Post
Os nad ydych yn gallu cyflwyno cwyn yn ysgrifenedig oherwydd eich amgylchiadau, gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, neu unrhyw gyfrwng addas arall i egluro hynny ac i drafod eich cwyn. Byddwn yn gwneud darpariaeth resymol gan roi cymorth i chi gyflwyno cwyn mewn ffordd arall.
Pa wybodaeth sydd angen i mi ei roi?
Gofynnwn i chi roi gymaint o wybodaeth â phosib i ni am beth sydd wedi digwydd, gan gynnwys
- Pa sefydliad ydych chi’n cwyno amdano
- Beth ydych chi’n cwyno amdano a disgrifiad o beth sydd wedi digwydd
- Dyddiadau ac amser perthnasol
- Ymateb y sefydliad i’ch cwyn (ble mae’n berthnasol)
- Tystiolaeth i gefnogi eich cwyn (e.e. lluniau, dogfennau, copïau o lythyrau, rhifau ffôn ayb)
Beth fydd yn digwydd ar ôl i mi gyflwyno cwyn?
O fewn 5 diwrnod gwaith byddwn yn:
- Cydnabod derbyn eich cwyn
- Rhoi gwybod i chi a yw eich cwyn yn ddilys neu beidio
- Os yw’n ddilys, mae’n bosib y byddwn yn gofyn i chi am wybodaeth bellach
- Cyflwyno eich cwyn i’r sefydliad yr ydych yn cwyno amdano, ac yn gofyn iddynt ymateb i’r gŵyn o fewn 10 diwrnod gwaith
Beth sy’n digwydd wedyn?
Ar ôl derbyn ymateb y sefydliad, byddwn yn penderfynu a oes angen i ni agor ymchwiliad i’ch cwyn.
Oes cyfleoedd eraill yn bodoli i roi sylwadau ar ymchwiliad?
Rydym yn hapus i dderbyn sylwadau gennych chi a’r sefydliad ar yr ymchwiliad tra bo’r ymchwiliad ar agor. Gallwch wneud hynny drwy gyflwyno eich sylwadau yn ysgrifenedig i post@cyg-wlc.cymru.
A fydd gwybodaeth am yr ymchwiliad yn cael ei gyhoeddi?
Rydym yn rhoi gwybodaeth am bob ymchwiliad yn ein Cofrestr Camau Gorfodi sydd ar gael ar ein gwefan.
Beth os nad ydw i’n gallu ymateb yn ysgrifenedig i wahanol gamau’r ymchwiliad?
Gallwn drafod pa gymorth neu addasiadau sy’n addas i chi. Er enghraifft, gallwn gynnig:
- Dulliau cyfathrebu gwahanol
- Cymorth ychwanegol
- Trefniadau penodol yn ôl eich anghenion
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn ar 0345 603 3221 neu drwy unrhyw un o’n sianeli cyfathrebu.