Comisiynydd y Gymraeg (y Comisiynydd) sy'n gyfrifol am y wefan hon. Mae’r Comisiynydd am i bawb allu cael mynediad i'r wefan. Mae hynny'n golygu y dylech allu: ·
- Newid lliwiau,
- Cyferbynnu lefelau a ffontiau
- Chwyddo’r testun dros 150% heb i’r testun ddiflannu oddi ar y sgrin
- Gwrando ar ran fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrîn
- Mae’r Comisiynydd yn ceisio gwneud testun y wefan yn hawdd i’w ddeall.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?
Mae’r Comisiynydd yn gwybod nad yw rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch
- Nid yw dogfennau PDF yn hygyrch i feddalwedd darllen sgrîn
- Nid yw rhai dolenni ar y wefan yn hunanesboniadol ar gyfer defnyddiwr darllenydd sgrîn.
- Mae rhai mannau lle mae cyferbyniad lliw yn isel
- Mae rhai lluniau, graffeg, testun a ffurflenni gyda’r testun priodoli neu amgen ar goll.
- Mae rhai tablau lle nad yw’r colofnau a’r rhesi wedi eu hadnabod.
- Mae ambell dabl nad yw’n hygyrch yn cael ei ddefnyddio.
- Nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau’n hygyrch i feddalwedd darllenydd sgrîn.
Gwybodaeth gyswllt ac adborth
Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille ffoniwch 0345 603 3221 (Llun-Gwener, 9am-5pm) neu anfonwch e-bost at post@comisiynyddygymraeg.cymru
Bydd y Comisiynydd yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 5 diwrnod gwaith.
Adrodd am broblemau hygyrchedd gyda gwefan y Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd yn ceisio gwella hygyrchedd ei wefan. Os byddwch chi’n dod ar draws problemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen neu os nad ydych chi’n meddwl ei fod yn bodloni gofynion hygyrchedd, anfonwch e bost at yr Uwch Swyddog Llywodraethiant post@comisiynyddygymraeg.cymru
Y weithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi’n hapus â sut mae’r Comisiynydd yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch gyda’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan
Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â fersiwn A 2.1 Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We, oherwydd y diffygion cydymffurfio a restrir isod.
Mae’r Comisiynydd yn cynnal archwiliadau rheolaidd o unrhyw ddolenni sydd newydd dorri ar dudalennau gwe, ac yn eu trwsio cyn gynted ag y cânt eu nodi. Ni fyddwn yn trwsio dolenni sydd wedi torri mewn dogfennau a gyhoeddwyd cyn Medi 2018, os nad yw'n hanfodol i ddefnyddiwr gael mynediad at wasanaeth. Pan fydd cynnwys newydd yn cael ei gyhoeddi, bydd yn sicrhau bod y dolenni’n bodloni safonau hygyrchedd.
Mae’r Comisiynydd wedi blaenoriaethu’r gwaith o adolygu a datrys problemau hygyrchedd ar y tudalennau sydd â’r nifer uchaf o bobl yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol.
Cynnwys nad yw yng nghwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Nid yw’r Comisiynydd yn bwriadu trwsio’r canlynol, gan eu bod wedi eu heithrio yn y rheoliadau:
Dogfennau hŷn
Nid yw'r rhan fwyaf o'r PDFs hŷn, ffeiliau Excel a dogfennau Word yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai nad ydyn nhw wedi eu strwythuro fel eu bod yn hygyrch i ddarllenydd sgrin. Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau.
Felly, nid yw’r Comisiynydd yn bwriadu datrys y wybodaeth ganlynol os cafodd ei gyhoeddi cyn 23 Medi 2018:
- testun amgen neu ddiodoli sydd ar goll
- tablau nad ydynt yn hygyrch
- dogfennau, megis PDFs, ffeiliau Excel a Word nad ydynt yn bodloni safonau hygyrchedd
Baich anghymesur
Mae gwefan y Comisiynydd yn cynnwys cannoedd o dudalennau a dogfennau hanesyddol. Gall rhai ohonyn nhw fod wedi'u heithrio o'r rheoliadau. Byddai'n cymryd cryn dipyn o amser ac arian i adolygu a mynd i'r afael â'r rhain yn llawn, felly, mae’r Comisiynydd wedi asesu y byddai hyn yn faich anghymesur ar hyn o bryd. Bydd unrhyw ddogfennau newydd a gyhoeddir mor hygyrch â phosibl.
Beth sy’n cael ei wneud i wella hygyrchedd?
Mae’r Comisiynydd yn ceisio gwella hygyrchedd ei wefan. Rydym yn cynllunio i newid dogfennau diweddar nad ydynt yn hygyrch i fod yn hygyrch. Rydym am sicrhau fod testun didoli ac amgen wedi eu cynnwys ar dudalennau. Rydym am adolygu ein lluniau a sicrhau fod disgrifiad clywedol wedi ei gynnwys. Paratowyd y datganiad hwn yn ystod Gorffennaf 2021.