Asesiad Baich Anghymesur

Cwmpas

Mae ein gwefan yn cynnwys nifer fawr o PDFs a grëwyd yn y gorffennol (tua 400-500). Er bod rhai yn hygyrch, rydym yn gwybod bod gan lawer o'r dogfennau hyn un neu fwy o faterion hygyrchedd.

Lle nad yw'r rhain yn cael eu diweddaru bellach, nid ydym yn bwriadu eu hail-greu mewn fersiynau hygyrch gan y byddai hyn yn faich anghymesur. Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau.

Mae'r asesiad hwn yn ymwneud yn bennaf â dogfennau PDF nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach. Fodd bynnag, bydd rhai dogfennau PDF sy'n dal i gael eu defnyddio neu sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd sydd o fewn y cwmpas.

Er y byddwn yn ceisio sicrhau bod y dogfennau newydd a'r dogfennau y gwneir y defnydd mwyaf ohonynt yn gwbl hygyrch, ar hyn o bryd byddai'n faich anghymesur i ni fel sefydliad sicrhau bod yr holl ddogfennau PDF ar y wefan yn gwbl hygyrch.

Manteision

Manteision gwneud y PDFs hyn yn fformatau PDF neu HTML hygyrch fyddai:

  • Byddai’r deunyddiau’n gwbl hygyrch i bob defnyddiwr
  • Byddai'n haws chwilio a mynegeio deunyddiau

Baich

Ein hasesiad o'r baich o wneud y dogfennau PDF hyn yn fformatau PDF neu HTML hygyrch yw:

  • bod tua 400-500 o ddogfennau hanesyddol wedi'u creu gan y sefydliad
  • y byddai pob dogfen yn cymryd nifer o oriau gwaith i’w hailgreu mewn fersiwn gwbl hygyrch (amcangyfrif rhwng 2 a 30 awr y ddogfen, yn dibynnu ar yr hyd a’r cymhlethdod, ynghyd ag unrhyw gymeradwyaeth ofynnol)
  • bod llawer o’r dogfennau’n cynnwys elfennau cymhleth sy’n anodd eu trosi’n ôl-weithredol, megis tablau, graffiau, a diagramau manwl

Ffactorau eraill

Hefyd yn berthnasol i’r penderfyniad hwn:

  • Ychydig iawn o ddiddordeb sydd yn rhai o’r dogfennau hyn – ychydig o bobl sy’n eu cyrchu
  • Mae'r dogfennau'n bodloni gofynion hygyrchedd o ran nifer fawr o ddefnyddwyr, er eu bod yn anghymesur o anodd i rai grwpiau
  • O'r dogfennau rydym yn awgrymu a fyddai'n cynrychioli baich anghymesur, mae ceisiadau am fersiynau hygyrch ychwanegol yn brin
  • Rydym wedi a byddwn bob amser yn cynorthwyo gyda fersiynau hygyrch ar gais
  • Fe wnaethom ddioddef ymosodiad seiber ym mis Rhagfyr 2020 lle collwyd llawer o ddogfennau a dim ond ar ffurf PDF y cafodd rhai o'r dogfennau hynny eu hadfer, felly byddai angen ailysgrifennu rhai dogfennau'n llawn.
  • Mae'r mwyafrif helaeth o'r wybodaeth ar ein gwefan yn gwbl hygyrch eisoes ac mae gennym gynllun yn ei le i ddatrys y materion sy'n weddill.

Asesiad

Lle nad yw’r dogfennau bellach yn cael eu defnyddio, neu lle nad ydynt bellach yn cael eu diweddaru, mae cost uchel o ran oriau gweithwyr i'w trosi. Rydym yn sefydliad bach gydag adnoddau cyfyngedig ar gael ar gyfer gwaith ar y wefan a chreu deunyddiau hygyrch. Rydym bob amser yn ymateb fesul achos i geisiadau am ein cyhoeddiadau mewn fformatau gwahanol, felly mae fersiynau hygyrch ar gael ar gais. Rydym yn ystyried y byddai costau trosi pob dogfen, yn enwedig dogfennau hŷn lle nad oes llawer o dystiolaeth o alw amdanynt, yn ddefnydd gwael o amser prin staff, ac yn faich anghymesur ar y sefydliad o ran cost. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu hyn eto ymhen 12 mis arall.

Dyddiad asesu: 31 Ionawr 2024

Dyddiad adolygu: 31 Ionawr 2025