Er mwyn creu polisi defnydd mewnol effeithiol sy’n cefnogi eich staff i ddefnyddio’u Cymraeg rydym wedi creu modelau polisi mae modd eu haddasu a’u perthnasu i anghenion eich sefydliadau chi.
Bwriad y modelau yw eich rhoi ar ben ffordd o ran creu polisi defnydd mewnol effeithiol ac uchelgeisiol, gan geisio sicrhau bod yr holl elfennau angenrheidiol wedi eu cynnwys. Mae dewis o 3 model polisi - wedi eu lleoli ar hyd continwwm o ddefnydd iaith - fydd yn eich annog i yrru newid dros amser a datblygu defnydd eich gweithlu o’r Gymraeg. Mae’r modelau yn rhoi arweiniad clir ar sut i greu eich polisi a dylech deilwra ac addasu’r ddogfen yn unol â gofynion eich sefydliad.
Mae’r pecyn isod yn eich tywys trwy’r broses gam wrth gam.