Sefydliadau Cyhoeddus

Mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru, a llawer iawn o sefydliadau Prydeinig sydd yn darparu gwasanaethau yng Nghymru, gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd. Mae rhai sefydliadau yn gweithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg tra bod sefydliadau eraill yn gweithredu yn unol â Safonau’r Gymraeg.  

Llun o'r heddlu

Safonau’r Gymraeg 

 

Tra bod rhai sefydliadau yn dal i weithredu cynlluniau iaith, mae nifer fawr bellach wedi trosglwyddo i weithredu Safonau’r Gymraeg.  

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu trefn newydd ar gyfer gosod dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Yn hytrach na’i gwneud yn ofynnol i sefydliad baratoi cynllun iaith, mae pob sefydliad yn derbyn Hysbysiad Cydymffurfio gan y Comisiynydd sydd yn nodi’r safonau y mae’n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â nhw. Mae mwy o wybodaeth am safonau i’w gweld yma ac mae rhestr o’r holl hysbysiadau cydymffurfio i’w gweld yma. Os ydych chi o’r farn bod y sefydliad wedi methu cydymffurfio â’r safonau yn ei hysbysiad cydymffurfio, yna gallwch gyflwyno cwyn i’r sefydliad neu atom ni. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i wneud cwyn i’w gweld yma.

Arwydd Neuadd y dref

Cynlluniau Iaith Gymraeg 

 

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn ei gwneud yn ofynnol ar sefydliadau cyhoeddus i baratoi Cynllun Iaith Gymraeg. Mae cynllun iaith yn egluro sut mae sefydliad yn sicrhau ei fod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r cynlluniau dderbyn cymeradwyaeth y Comisiynydd a fydd hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i sefydliadau wrth iddyn nhw baratoi a gweithredu eu cynlluniau. Mae dyletswydd statudol ar y sefydliadau i gydymffurfio gyda’r ymrwymiadau yn y cynllun iaith. Os ydych chi o’r farn bod y sefydliad wedi methu cydymffurfio efo’i gynllun iaith, yna gallwch gyflwyno cwyn i’r sefydliad. Mae mwy o wybodaeth ynglŷn â chwynion am sefydliadau sydd â chynllun iaith i’w weld yma.