
Sut mae sefydliad yn dod o dan ddyletswydd i weithredu safonau’r Gymraeg?
Mae’r broses o ddod â sefydliad o dan ddyletswydd i weithredu safonau’r Gymraeg yn broses statudol. Mae Llywodraeth Cymru yn paratoi Rheoliadau drafft a’r Senedd yn ystyried a chymeradwyo’r Rheoliadau hynny.
Bydd y Comisiynydd yn paratoi Hysbysiad Cydymffurfio drafft i bob sefydliad sydd yn dod o dan y Rheoliadau. Bydd y Comisiynydd yn ymgynghori gyda’r sefydliad ar resymoldeb y gofynion o fewn yr Hysbysiad Cydymffurfio drafft ac yn ystyried ymateb y sefydliad cyn gosod Hysbysiad Cydymffurfio terfynol arnynt.