
Os ydych yn teimlo bod sefydliad trydydd sector neu sector preifat yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, mae modd i chi gyflwyno pryder.
Yn gyntaf, byddwn yn eich annog i gyfeirio’r pryder yn uniongyrchol wrth y busnes neu’r sefydliad hwnnw er mwyn rhoi cyfle rhesymol iddynt ystyried ac ymateb.
Ond, er ei fod yn arfer da i gynnig cyfle i’r busnes neu sefydliad ymateb yn y man cyntaf, mae’r Comisiynydd yn cydnabod bod rhai amgylchiadau yn golygu nad oes modd i berson gwyno wrth y sefydliad yn uniongyrchol. Bydd y Comisiynydd felly yn derbyn pryderon sydd heb fynd at sylw’r sefydliad yn y man cyntaf. Bydd angen i chi dynnu sylw at enghreifftiau neu achosion penodol os yn bosib. Bydd y Comisiynydd yn ystyried yr achosion hyn ar sail achos wrth achos.
Er nad oes gan y Comisiynydd bwerau statudol i ymdrin â phryderon yn erbyn nifer o sefydliadau trydydd sector a sector preifat, mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn arfogi’r Comisiynydd i annog arferion gorau, i gynnal ymchwil ac i roi cyngor i unrhyw berson neu sefydliad. Trwy olrhain y fath o bryderon a gyflwynir, cred y Comisiynydd bod modd adnabod meysydd sydd o flaenoriaeth i’r cyhoedd. Gellid mynd ati mewn modd strategol i gynnig cyngor ymarferol i sefydliadau er mwyn annog newid hir dymor.