Gweledigaeth Comisiynydd y Gymraeg yw Cymru lle gall pobl fyw eu bywydau yn y Gymraeg. Er mwyn gwireddu hyn mae gennym Gynllun Strategol newydd sy’n cynnwys ein blaenoriaethau am y cyfnod nesaf. Rydym yn anelu at ein gweledigaeth drwy ein gwaith rheoleiddio, ein gwaith hybu a hwyluso, a’n gwaith dylanwadu a chyfathrebu.

Defnyddio’r Gymraeg gyda sefydliadau cyhoeddus
Un ffordd o alluogi siaradwyr yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg yw sicrhau bod sefydliadau cyhoeddus sy’n gweithredu yng Nghymru , a llawer iawn o sefydliadau Prydeinig, yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â’r gofynion sydd wedi eu gosod arnynt. Mae nifer uchel o’r sefydliadau yma bellach yn gweithredu Safonau’r Gymraeg tra bod eraill yn parhau i weithredu Cynlluniau Iaith Gymraeg.

Defnyddio’r Gymraeg gyda busnesau ac elusennau
Ffordd arall y mae’r Comisiynydd yn galluogi siaradwyr Cymraeg o bob man yng Nghymru i ddefnyddio’r Gymraeg yw drwy ein gwaith hybu â’r sector breifat a trydydd sector. Mae ein tîm Hybu yn gweithio gyda busnesau ac elusennau o bob math er mwyn eu hannog a’u cefnogi wrth iddynt gynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd. Marc safon Comisiynydd y Gymraeg yw’r Cynnig Cymraeg a chaiff ei gynnig i fusnesau ac elusennau sydd wedi llwyddo i greu cynllun datblygu’r Gymraeg.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn medru defnyddio’r Gymraeg?
Mae’n bwysig i Gomisiynydd y Gymraeg eich bod yn medru rhoi gwybod i ni ar achlysuron pan na fedrwch ddefnyddio’r Gymraeg. Gallwch wneud cwyn i’r Comisiynydd am sefydliad sydd yn dod o dan safonau’r Gymraeg, neu os yw sefydliad ddim yn cydymffurfio â’i gynllun iaith. Os ydych yn teimlo bod sefydliad trydydd sector neu sector preifat yn trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru, mae modd i chi gyflwyno pryder.
Gallwch roi gwybod i ni hefyd os oes rhywun yn ymyrryd â’ch rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg gyda rhywun arall. Mae mwy o wybodaeth am sut i wneud cwyn, neu sut i gysylltu gyda ni pan na fyddwch yn medru defnyddio’r Gymraeg gydag unigolion eraill, ar gael yma.

Rhoi hyder i eraill ddefnyddio’r Gymraeg
Mae eisiau i bobl Cymru fedru mwynhau defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau o ddydd i ddydd, boed hynny yn yr ysgol, yn y gwaith, gyda theulu a ffrindiau neu gyda chydweithwyr.
Mae ymgyrch genedlaethol ‘Defnyddia dy Gymraeg’ yn anelu at rannu gwybodaeth am wasanaethau Cymraeg yn eang. Anela’r ymgyrch at godi hyder siaradwyr i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd o fywyd. Mae mwy o wybodaeth am weithgarwch diweddar ac am ffyrdd y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch yn y dyfodol ar gael yma.