Graffeg map o Gymru

Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011. Efa Gruffudd Jones yw’r Comisiynydd ers Ionawr 2023. 

Hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg yw ein gwaith ni. Rydym eisiau i Gymru fod yn wlad lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg. 

Wrth fynd ati i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, mae Mesur y Gymraeg yn nodi bod rhaid i ni ganolbwyntio ar gynyddu gwasanaethau Cymraeg a’r defnydd ohonynt, a chyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r Gymraeg. Mae’r Mesur hefyd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ac yn sefydlu’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Mae’r Mesur yn ein galluogi i wneud sawl peth i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys:

  • gosod a gorfodi dyletswyddau drwy safonau’r Gymraeg
  • annog a rhannu arferion llwyddiannus
  • llunio a chyhoeddi adroddiadau a gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i’w wneud
  • gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i’w gwneud
  • cyflwyno sylwadau neu roi cyngor i unrhyw un, gan gynnwys gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru
  • cynnal ymholiad statudol mewn maes penodol 
Graffeg ffon a gliniadur

Yng nghyd-destun yr hyn y mae’r Mesur yn ein galluogi i’w wneud, gellir rhannu ein gwaith i dri maes cysylltiedig:

  • Rheoleiddio
  • Hybu
  • Dylanwadu a Chyfathrebu