Dashfwrdd Data: Pwy sy’n siarad Cymraeg yng Nghymru?

Croeso i'n dashfwrdd data rhyngweithiol lle cewch fynediad hwylus at y prif ystadegau am siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae’n defnyddio data Cyfrifiad 2021, y brif ffynhonnell awdurdodol am nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg.  

Gallwch ei ddefnyddio i gael data manwl am ble yn union mae siaradwyr Cymraeg yn byw a gweld sut mae patrymau wedi newid dros amser, yn ogystal â darganfod rhagor am fywydau’r siaradwyr hyn.  

Ein nod yw rhoi’r data yn eich dwylo chi a’ch cefnogi i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych chi ei hangen yn hawdd. P’un ai ydych chi’n ymchwilydd, addysgwr, neu’n syml yn rhywun sy’n ymddiddori yn y Gymraeg a’i siaradwyr, gobeithio y cewch chi hwyl ar ei ddefnyddio.