Rydyn ni’n rheoleiddio er mwyn sicrhau cynnydd yn y cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddio’r Gymraeg. Drwy wneud hynny, byddwn hefyd yn cyfrannu at wireddu ein gweledigaeth o Gymru lle gall pobl ddefnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd.
Mae’r Comisiynydd yn rheoleiddio gyda phwrpas penodol a strategol. Byddwnyn glir iawn am yr hyn yr ydym yn ceisio ei gyflawni wrth wneud penderfyniadau rheoleiddio.
Yn gyson â’n hymrwymiad i weithredu dull o gyd-reoleiddio, rydym wedi gosod a chyhoeddi deilliannau rheoleiddio.

Ein bwriad wrth gyflwyno’r deilliannau hyn yw:
- gosod safonau’r Gymraeg a’n gwaith rheoleiddio yng nghyd-destun y weledigaeth genedlaethol o gynyddu nifer siaradwyr Cymraeg a chynyddu defnydd yr iaith
- darparu datganiadau tryloyw cyhoeddus o’r hyn rydym yn bwriadu ei gyflawni, a sut y byddwn yn gallu dangos pan fyddwn wedi ei gyflawni
- sicrhau bod ein gweithgareddau rheoleiddio yn canolbwyntio ar ganlyniadau i ddefnyddwyr y Gymraeg ac yn cael y traweffaith mwyaf ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg
- lliniaru’r risg bod sefydliadau yn canolbwyntio ar gydymffurfiaeth caeth yn hytrach na chanlyniadau da i ddefnyddwyr y Gymraeg.
Bydd Comisiynydd y Gymraeg yn ystyried cydymffurfiaeth sefydliadau yng nghyd-destun y deilliannau rheoleiddio i’r dyfodol, gan asesu’r graddau mae lefelau cydymffurfiaeth presennol yn debygol o’n harwain at gyflawni’r deilliannau yma.
Ein Fframwaith Rheoleiddio
Mae gan y Comisiynydd fframwaith rheoleiddio sy'n egluro sut y bydd yn gweithredu rhaglen waith o reoleiddio safonau’r Gymraeg a chynlluniau iaith Gymraeg.
Pwrpas y fframwaith yw egluro sut mae’r Comisiynydd yn rheoleiddio cydymffurfiaeth â dyletswyddau iaith Gymraeg yn gyffredinol. Mae’n egluro hefyd sut y bydd y Comisiynydd yn mynd rhagddi i hybu a hwyluso gweithrediad y drefn safonau lle mae hynny’n briodol.