Polisi Cwcis

Cwcis

Ffeiliau yw cwcis a anfonir i'ch cyfrifiadur, neu ddyfais debyg arall, gan wefan. Yna, gall y wefan honno gael mynediad i'r ffeiliau hyn yn nes ymlaen.  Nid yw cwcis yn cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch chi ac ni ellir eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.

Rydyn ni'n defnyddio cwcis i gael gwybodaeth ddienw am sut y mae pobl yn defnyddio ein gwefan ac i’n helpu ni i wybod beth sy'n ddiddorol ac yn ddefnyddiol ar ein gwefan.

Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Fodd bynnag, os nad ydych yn fodlon â chwcis, efallai y gallwch newid gosodiadau'ch porwr i wrthod pob cwci neu roi gwybod i chi pan gaiff cwci ei anfon i'ch cyfrifiadur - yna, gallwch chi ddewis p'un ai i dderbyn y cwci ai peidio.

Nodwch na fyddwch, o bosib, yn gallu defnyddio rhai rhannau neu nodweddion ar ein gwefan os byddwch yn gwrthod ein cwcis neu'n atal cwcis yn y dyfodol.

Sut i reoli a dileu cwcis

Ni fydd Comisiynydd y Gymraeg yn defnyddio cwcis i gasglu eich gwybodaeth bersonol. Fodd bynnag, os ydych am gyfyngu neu rwystro'r cwcis gallwch wneud hyn drwy osodiadau eich porwr.  Dylai opsiwn Help eich porwr allu eich tywys drwy hyn.

Fel arall, efallai yr hoffech fynd i  About Cookies sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am sut i wneud hyn ar amrywiaeth o borwyr. Hefyd, fe welwch fanylion am sut i ddileu cwcis o'ch cyfrifiadur ynghyd â gwybodaeth fwy cyffredinol am gwcis. I gael gwybodaeth am sut i wneud hyn ar borwr eich ffôn symudol bydd angen i chi ddarllen llawlyfr eich ffôn.

Cofiwch y gall cyfyngu ar gwcis effeithio ar weithrediad y wefan.

Google Analytics

Mae Comisiynydd y Gymraeg yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth analytig a ddarperir gan Google, Inc. Mae Google Analytics yn gosod cwci er mwyn gwerthuso eich defnydd o'r wefan ac i lunio adroddiadau i ni ar weithgarwch y wefan.

Mae Google yn storio'r wybodaeth a gesglir gan y cwci ar weinyddwyr yn yr Unol Daleithiau. Gall Google hefyd drosglwyddo'r wybodaeth hon i drydydd parti lle bo angen gwneud hynny yn ôl y gyfraith, neu lle mae trydydd parti o'r fath yn prosesu'r wybodaeth ar ran Google. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP ag unrhyw ddata a gedwir gan Google.  

Dysgwch mwy am ddiogelwch a phreifatrwydd yn Google Analytics. 

Sut i wrthod neu ddileu'r cwci hwn:

http://www.google.com/intl/en/privacypolicy.html​​​​​​​​D​olen allanol yn agor mewn ffenest newydd

Cwcis a osodir gan wefannau Trydydd Parti  

I gefnogi ein gwefannau, rydym weithiau'n mewnosod ffotograffau a fideos o wefannau fel YouTube. O ganlyniad, pan fyddwch yn ymweld â thudalen sydd â chynnwys sydd wedi'i fewnosod mae'n bosibl y cewch gwcis o'r gwefannau hyn. Nid yw Comisiynydd y Gymraeg yn rheoli lledaeniad y cwcis hyn.  Dylech edrych ar wefan y trydydd parti perthnasol i gael rhagor o wybodaeth.

Nid ydym yn casglu neu gadw eich gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu gyfeiriad) felly nid yw’r wybodaeth hon yn gallu cael ei defnyddio i’ch adnabod. Nid ydym yn rhoi caniatâd i Google defnyddio neu rannu ein data analytig.