
Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
2wish Cymru
- Cynnig cefnogaeth yn syth yn Gymraeg wyneb yn wyneb yng ngogledd Cymru neu ar-lein i deuluoedd mewn rhannau eraill o Gymru
- Cynnig sesiynau therapi chwarae yn Gymraeg yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych. Mewn rhannau eraill o Gymru, cynnig sesiynau ar-lein gyda phlant os yn addas i’w hoedran. Yn ogystal gall y therapydd chwarae weithio gyda rhieni i’w cefnogi nhw i gefnogi eu plentyn
- Gofyn i chi am eich dewis iaith pan yn siarad gyda chi gyntaf, i wneud yn siŵr eu bod ni’n gallu eich cefnogi yn y ffordd orau
- Mae siaradwyr Cymraeg 2wish yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith ac yn defnyddio’r logo er mwyn i chi allu eu hadnabod
- Mae croeso i chi gysylltu â nhw yn Gymraeg neu yn Saesneg
- Mae eu holl gyhoeddiadau yn ddwyieithog neu mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o’n llyfrynnau iechyd proffesiynol.
AA Drivetech
- Mae AA Drivetech yn cynnig pob cwrs sydd ar gael yng Nghymru yn y Gymraeg ac wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog.
- Byddwch yn gallu cael mynediad at eu gwasanaethau a gwybodaeth am y cyrsiau yn Gymraeg neu’n Saesneg a llywio cynnwys ein gwefan Gymraeg yn hawdd.
- Gall cleientiaid archebu yn y Gymraeg dros y ffôn ac ar-lein.
- Bydd dewis cyfathrebu yn Gymraeg yn gam hawdd i unrhyw un sy'n cysylltu ag AA Drivetech a byddwn yn cyfathrebu yn eich dewis iaith lle bynnag bo hynny’n bosibl.
- Bydd yr holl ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â chyrsiau a gynhelir yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
- Lle bynnag y bydd yn bosibl, bydd eu staff trin galwadau yn atgoffa cwsmeriaid o Gymru sy'n cysylltu â ni sy’n dymuno gwneud cwrs y gallwn ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog iddynt.
- Bydd AA Drivetech yn sicrhau, lle bynnag y bydd yn bosibl, y gall cleientiaid gael mynediad i gwrs yng Nghymru mewn lleoliad sydd o fewn pellter teithio hawdd iddynt.
Achub y Plant
- Mae'r elusen yn croesawu pob math a dull o gyfathrebu yn y Gymraeg. Siaradwch yn Gymraeg gyda nhw os y gwelwch yn gwisgo’r bathodyn
- Bydd holl gyhoeddiadau sy’n cael eu creu yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. Bydd deunydd sy’n cael ei greu gan Achub y Plant y DU ar gyfer cynulleidfa ar draws y DU yn cael ei greu’n ddwyieithog pan fydd yn ymwneud â materion yng Nghymru.
- Cyfathrebu gyda’r wasg a’r cyfryngau yn y Gymraeg a bydd yn Gymraeg yn flaenllaw ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol.
- Darparu llefarwyr sy’n gallu’r Gymraeg i ddod i siarad gyda’ch sefydliad neu ysgol am eu gwaith.
- Mae angen aelodau o staff a gwirfoddolwyr dwyieithog arnynt er mwyn gallu cyflawni ein nodau. Byddant yn gwneud pob ymdrech i gefnogi eu staff i ddysgu’r Gymraeg ac wrth recriwtio staff newydd.
Adain
- Gwasanaeth cwbl Gymraeg. Cwmni Cymraeg yw Adain sydd wedi ei sefydlu i hybu’r Gymraeg ac i godi hyder busnesau i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn ddigidol.
- Maent yn cynnig cymorth ac arweiniad gydag ysgrifennu cynnwys ar gyfer eich platfformau digidol, boed hynny yn wefan, yn gyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu’r ymgyrch farchnata.
- Mae’n bleser gan Adain i gydweithio efo busnesau a chynnal gweithdai neu hyfforddiant er mwyn codi hyder mewn elfennau o farchnata digidol dwyieithog.
- Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes, mae Adain yn cynnig gwasanaeth marchnata digidol dwyieithog yn cynnwys gwaith gwefan, cyfryngau cymdeithasol, dylunio ac ysgrifennu cynnwys.
- Gall Adain gynnig gwasanaeth ymgynghori lle byddant yn edrych ar wahanol agweddau o’ch presenoldeb digidol a chynnig awgrymiadau ac arweiniad ar sut i wella a chynyddu eich cynnwys digidol dwyieithog.
Adeiladwaith Tom James Construction
- Staff swyddfa i gyd yn ddwyieithog.
- Arwyddion safleoedd yn Gymraeg
- Gwefan yn ddwyieithog
- Defnyddio’r Gymraeg ar y cyfryngau cymdeithasol
Afallen
- Byddwch yn gallu cyrchu eu holl ddeunydd ar-lein, gan gynnwys y we a chyf-ryngau cymdeithasol, trwy gyfrwng y Gymraeg
- Byddwch yn gallu nodi eich dewis ar gyfer derbyn gwasanaeth Cymraeg gan Afallen ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau
- Byddent yn defnyddio eich dewis iaith menw e-bost neu gyfathrebiad arall
- Byddent yn cefnogi cydweithwyr a chymdeithion i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys trwy amser a neilltuwyd yn ystod y diwrnod gwaith. Manylir ar y cynnig hwn yn y llawlyfr staff
Agored Cymru
- Gallwch gysylltu drwy e-bost neu dros y ffôn yn Gymraeg neu’n Saesneg
- Gall cwsmeriaid siarad gyda aelod staff sy’n siarad Cymraeg
- Mae gwefan a’i negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
- Mae holl gynnyrch a gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
- Mae’r defnydd o Gymraeg yn y gweithle yn cael ei annog ac mae ‘awyrgylch ddiogel’ wedi greu i alluogi staff wella eu dealltwriaeth a’u sgiliau. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan ein Pencampwyr Iaith Gymraeg.
Agri Advisor
- Mae Agri Advisor, yn gallu cynnig gwasanaeth Gymraeg cynhwysfawr ym mhob un o’u swyddfeydd yng Nghymru.
- Maent yn gallu darparu cyngor cyfreithiol, achosion llys, gwasanaethau cynghorol, chyfryngiad a hyfforddiant yn Gymraeg i unigolion a busnesau.
- Maent yn gallu darparu cyngor yn Gymraeg yn ysgrifenedig, dros y ffôn, yn rhithiol neu wyneb yn wyneb.
Aldi
- Mae cyhoeddiadau ac arddangosfeydd hunan-wasanaeth yn ddwyieithog.
- Mae’r holl arwyddion yn y siopau, yn ogystal ag yn ystod y gwaith o adeiladu’r siopau, yn cael eu harddangos yn Gymraeg a Saesneg.
- Mae staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith ac maent y broses o gyfieithu bathodynnau enw fel bod teitlau swyddi yn cael eu harddangos yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
- Mae digwyddiadau ar gyfer siopau newydd dan arweiniad Gweithrediadau’r Siop ac Eiddo Tirol yn Gymraeg ac yn Saesneg.
o Mae taflenni / deunyddiau marchnata ar gyfer siopau newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn rhanbarthau perthnasol.
o Mae cyhoeddiadau sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid am y tiliau yn agor a chau yn ddwyieithog.
o Mae gan eu cynnyrch brand Cymreig ni becynnu dwyieithog, gan gynnwys llaeth, menyn, caws a chig.
Alzheimer's Cymru
- Drwy eu gwasanaeth Cyswllt Dementia Connect, byddwch yn gallu
siarad â Chynghorwyr Dementia Cymraeg eu hiaith ac yn derbyn
gwybodaeth a chymorth ymatebol, unigolyddol ac empathig. - Byddwch yn gallu darllen eu taflenni gwybodaeth a chyngor mwyaf
poblogaidd, yn ogystal ag adroddiadau allweddol eraill ac adnoddau
hyrwyddo yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. - Cynorthwyo i gyfathrebu yn Gymraeg, lle bynnag y bo’n
bosibl, ac ymdrechu i sicrhau na fyddwch yn profi unrhyw
oedi. - Ymdrechu i hyrwyddo a chyflenwi’n gwasanaethau,
gweithgareddau a’i digwyddiadau’n ddwyieithog i sicrhau eu bod
yn cyrraedd cynifer o bobl yr effeithir arnynt gan ddementia ag y bo
modd, yn cynnwys y fenter ymwybyddiaeth gyhoeddus, Ffrindiau
Dementia. - Caiff profiad o fywyd pobl yr effeithir arnynt gan ddementia, lle
mae’r Gymraeg yn iaith ddewisol ganddynt, ei adlewyrchu yn eu
gweithgareddau a’n hadnoddau. - Cefnogi ac annog y Gymraeg yn ein gweithle ac yn
recriwtio’n rhagweithiol weithwyr a gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith,
lle y bo’n briodol. - Cynorthwyo ac yn cynnig hyfforddiant i’w gweithwyr iddynt
allu ennill sgiliau siarad Cymraeg ac yn defnyddio’r symbol Iaith
Gwaith ar e-byst, lle y bo’n briodol. - Croesawu ohebiaeth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg.
- Cynhyrchu datganiadau dwyieithog i’r wasg lle mae’n
ofynnol, a chynnwys Cymraeg ar eu gwefan a’i sianeli
cyfryngau cymdeithasol. - Mae eu delwedd a’n hunaniaeth gyhoeddus, yn cynnwys ein logo, yn
ddwyieithog yng Nghymru.
Ani-bendod
- Defnyddio’r Gymraeg yn falch ar y cyfryngau cymdeithasol
- Defnyddio’r Gymraeg ar eu nwyddau ac yn dathlu’r Gymraeg trwy ddefnyddio ymadroddion a dywediadau poblogaidd ar ein dillad
- Mae Cefn Gwlad yn ran annatod o’n busnes, hoff o ddefnyddio idiomau a dyluniadau sy’n adlewyrchu hyn
- Gallwch gysylltu gyda nhw yn Gymraeg drwy ein cyfrifon Cymdeithasol a hefyd dros e-bost
- Deunyddiau marchnata yn ddwyieithog
- Gallwch siarad Cymraeg â nhw wrth ymweld â ni mewn digwyddiadau fel yr Eisteddfod a’r Sioe Frenhinol
- Cydweithio gyda chlybiau ffermwyr ifanc a sefydliadau amrywiol i greu dillad ar gyfer amryw o ddigwyddiadau megis codi arian
- Gwasanaethu busnesau bach a mawr gyda dillad wedi brandio.
Antur Aelhaearn
- Bydd Antur Aelhaearn yn cynnig gwasanaeth yn Gymraeg yn rhagweithiol i’r aelodau ac i fynychwyr gweithgareddau.
- Bydd Antur Aelhaearn yn parhau i weithio’n hyderus i ddarparu prosiectau a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Bydd yn hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg yn y gymuned, ac yn annog eraill i wneud hefyd.
- Mewn cyfarfodydd blynyddol cyffredinol bydd cyfarpar cyfieithu yn cael ei ddarparu
- Bydd adroddiad blynyddol y cadeirydd ar gael yn y Gymraeg a'r Saesneg.