Gallwch gysylltu gyda nhw yn ddwyieithog dros y ffôn, ar y we, neu wyneb yn wyneb.
Gallwch ymuno mewn sesiynau blasu yn y Gymraeg, ac yn annog dysgwyr i fynychu’r sesiynau yma.
Darparu gwybodaeth ar y we / cyfryngau cymdeithasol / ac ar bapur yn ddwyieithog.
Mae nwyddau Cymraeg ar gael i’w harchebu yn y siop.
Mae’r wybodaeth am y broses bragu i’w weld yn ddwyieithog.
Darparu taflenni caneuon Cymraeg ar gyfer codi canu, ac yn annog canu yn y Gymraeg mewn digwyddiadau. Gallwch ymuno gyda nhw i wylio’r rygbi ar y sgrin fawr gyda sylwebaeth Gymraeg.
Mae’r Gymraeg yn hanfodol pan maent yn penodi aelodau newydd o staff. Mae’r holl dim yn siarad Cymraeg, a croeso i unrhyw un gysylltu â nhw yn Gymraeg.
Maent yn hyrwyddo eu cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg, gyda'r Gymraeg wastad yn cael ei defnyddio yn gyntaf.
Mae eu gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Mae delwedd eu cwmni yn Gymraeg, ac wedi ei seilio ar y Mabinogion. Maent yn frwd dros iaith, hanes a diwylliant ardal Dyffryn Nantlle.
Maent yn trefnu sesiynau sgwrsio i ddysgwyr yn eu bragdy.
Maent yn cynnig gwasanaeth cyngor ariannol a rheoli buddsoddiadau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn neu dros e-bost trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae eu deunydd marchnata yng Nghymru yn ddwyieithog.
Maent yn annog i staff sy’n siarad Cymraeg wisgo bathodyn Iaith Gwaith mewn digwyddiadau, ac i ddefnyddio’r logo ar e-byst er mwyn dangos eu bod nhw’n siarad Cymraeg.
Maent yn gwerthfawrogi’r Gymraeg fel sgil ac yn cefnogi eu siaradwyr Cymraeg, yn cynnig cyfleoedd i rai sy’n dymuno dysgu’r iaith, ac yn awyddus i recriwtio siaradwyr Cymraeg.
Gallwch siarad Cymraeg â staff sydd yn gwisgo neu’n arddangos bathodyn y Gymraeg.
Cysylltu â nhw yn Gymraeg dros y ffôn, trwy lythyr, ar e-bost neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddant yn parchu eich dewis ac yn ymateb yn eich iaith ddewisol.
Byddant yn datblygu ac yn hyrwyddo ymgyrchoedd, hyfforddiant a digwyddiadau yn ddwyieithog mewn print ac ar-lein.
Byddant yn annog ac yn cynorthwyo eu staff i ddefnyddio a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Yn gwerthfawrogi sgiliau Cymraeg wrth recriwtio aelodau newydd o staff.
Yn gwrando ac yn agored i adborth os oes unrhyw un yn teimlo nad ydynt yn bodloni eu hymrwymiad i’r Gymraeg.
Mae pecynnau cychwynnol Cymraeg ar gael i bob aelod.
Mae gwefan ar gael yn ddwyieithog.
Mae proffiliau cyfryngau cymdeithasol yn gwbl ddwyieithog
Maent yn croesawu gohebiaeth Gymraeg ac yn ymateb yn iaith yr ohebiaeth wreiddiol.
Mae'r holl gylchlythyrau'n cael eu cynhyrchu'n ddwyieithog, mae digwyddiadau sy'n agored i gynulleidfa ehangach yn cael eu hysbysebu'n ddwyieithog a bydd cyfranogwyr yn cael dewis iaith.
Mae pob gwirfoddolwr yn gallu gwirfoddoli yn eu dewis iaith, a darperir deunyddiau dwyieithog.
Maent yn darparu gwasanaeth monitro gwleidyddol dwyieithog i gleientiaid, yr unig gwmni materion cyhoeddus yng Nghymru sy'n cynnig y gwasanaeth hwn.
Mae croeso i'w cleientiaid gyfathrebu â nhw yn Gymraeg. Byddent o hyd yn ymdrechu i ateb yn yr un iath. Mae gan bob aelod o staff sy'n siarad Cymraeg droedyn e-bost sy'n nodi eu bod yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
Mae eu gwefan yn ddwyieithog ac mae'r rhan fwyaf o'u cynnwys cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog. Mae eu cylchlythyr a'n deunyddiau marchnata yn ddwyieithog.
Pan maent yn mynychu neu'n cynnal cynadleddau a digwyddiadau, mae'r deunyddiau maent yn defnyddio, megis baneri, gwybodaeth i'r mynychwyr, canllawiau a llyfrynnau ar gael yn ddwyieithog. Pe bai angen, byddent hefyd yn darparu gwasanaethau cyfieithu.
Wrth recriwtio aelodau staff newydd yng Nghymru, maent yn asesu'r angen am sgiliau iaith Cymraeg ar gyfer pob swydd newydd, gyda hysbysebion yn cael eu paratoi'n ddwyieithog.
Gallwch wneud ymholiad yn y Gymraeg dros e-bost, ffôn, trwy ymweld â’r swyddfa neu dros wefannau cymdeithasol, a byddwch yn derbyn ymateb yn y Gymraeg.
Mae 85% o’i diwtoriaid rheolaidd llawrydd yn siarad Cymraeg sy’n golygu bod mwyafrif y disgyblion yn gallu derbyn hyfforddiant cerddorol trwy’r Gymraeg os dymunant. Maent yn annog ac yn awyddus i gefnogi unrhyw weithwyr llawrydd sy’n awyddus i ddysgu Cymraeg.
Mae holl ddeunyddiau marchnata CGWM yn gwbl ddwyieithog, gyda’r Gymraeg yn ymddangos gyntaf pan mae’r ddwy iaith ar yr un dudalen neu neges.
Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog ac yn cael ei diweddaru’n gyson.
Yn sgil y Gwyliau Cerdd Rhyngwladol rydym yn codi proffil yr iaith Gymraeg ar draws y byd.