
Sefydliadau sydd â'r Cynnig Cymraeg
Datblygiadau Egni Gwledig
- Mae DEG yn croesawu gohebiaeth ysgrifenedig trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei ateb yn Gymraeg. Byddant yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl ohebiaeth a dderbynnir trwy gyfrwng y Gymraeg yn derbyn sylw o fewn yr un amserlen â gohebiaeth Saesneg.
- Mae croeso i bobl siarad Saesneg neu Gymraeg wrth ddelio â DEG dros y ffôn. Os na fydd modd i gyflogai ddarparu gwasanaeth dwyieithog, byddant yn egluro’r sefyllfa i’r unigolyn ac yn cynnig gwasanaeth cyfrwng Cymraeg gan gyflogai arall o staff. Os nad oes siaradwyr Cymraeg ar gael, gall y person sy’n galw ddewis cael person sy’n siarad Cymraeg i roi galwad yn ôl iddynt; cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig (copi caled/e-bost); neu barhau â’r sgwrs trwy gyfrwng y Saesneg.
- Mae DEG wrthi’n sicrhau bod y rhai sy’n dymuno cael cyswllt wyneb yn wyneb gyda chyflogai sy’n siarad Cymraeg yn gallu gwneud hynny naill ai’n ffisegol neu’n rhithiol, yn ddibynnol ar trefniadau gweithio sydd mewn lle gan DEG ar y pryd. Efallai na fydd hyn yn bosib bob tro, ond ymdrechir i gynnig y gwasanaeth llawn hyd ag y bo modd.
- Bydd popeth rydym yn ei gyhoeddi, yn cynnwys blogiau, erthyglau, postiadau ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ddwyieithog gyda Cymraeg gyntaf
- Mae DEG yn ymdrechu i annog a chefnogi cyflogeion sy’n dymuno dysgu Cymraeg ac i gefnogi staff sy’n siarad Cymraeg ac yn dymuno gwella eu sgiliau iaith. Bydd staff sy’n siarad Cymraeg yn annog staff eraill sy’n dysgu Cymraeg i siarad Cymraeg yn y gweithle.
Davies & Davies
- Maent yn cynnig gwasanaeth Cymraeg dros y ffôn, wyneb yn wyneb a thros e-bost.
- Parodrwydd i gefnogi’r gymuned leol ac yn cefnogi busnesau Cymreig
- Mae eu staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith
- Maent yn derbyn gohebiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg
- Maent yn defnyddio’r Gymraeg ar eu cyfryngau cymdeithasol, ac mae croeso i chi gysylltu â nhw yn y Gymraeg ar y platfformau hynny
- Mae ganddynt docynnau anrheg dwyieithog
DEC Cymru
- Cyfathrebu dwyieithog ar y cyfryngau cymdeithasol (Twitter, Facebook)
- Gwybodaeth, pecynnau a deunyddiau dwyieithog ar gael i’w rhwydwaith o bartneriaid a chefnogwyr yn ystod apêl
- Gwasanaeth cyfieithu mewn digwyddiadau.
- Gwasanaeth dwyieithog ar gyfer unrhyw faterion yn ymdrin â’r cyhoedd gan gynnwys cyfweliadau i’r wasg.
- Rydym yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg
Discovery SVS
Eu nod yw:
- Darparu o leiaf un prosiect Cymraeg ar eu platfform bob amser
- Darparu o leiaf un cyfle neu ddigwyddiad gwirfoddoli untro trwy gyfrwng y Gymraeg bob mis
- Cydweithio ag Academi Hywel Teifi ac Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe i ymgysylltu â myfyrwyr Cymraeg eu hiaith
- Darparu cyfathrebiadau dwyieithog lle bo modd, gan gynnwys yn e-bost wythnosol Discovery, ar llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a deunyddiau cyhoeddusrwydd
- Cynnig hyfforddiant sgiliau iaith Gymraeg i staff a gwirfoddolwyr bob tymor.
Dolen HR
- Maent yn gwisgo bathodynnau ‘Iaith Gwaith’ i annog pobl i ddechrau sgwrs yn Gymraeg gyda ni.
- Maent yn cynnal sesiynau ‘Iaith yn Gwaith’ gyda’u cleientiaid ac yn cynnal sesiynau ar-lein rheolaidd i helpu dysgwyr i ddatblygu eu sgiliau iaith.
- Anfonir eu deunyddiau marchnata yn ddwyieithog. Mae hyn yn sicrhau bod eu cleientiaid yn ymwybodol eu bod yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.
- Mae eu gwefan newydd yn gwbl ddwyieithog.
- Os byddwch yn anfon llythyr neu e-bost Cymraeg atynt, byddent yn ateb yn Gymraeg.
- Maent yn annog eu dysgwyr i siarad mwy o Gymraeg o fewn y swyddfa ac yn eu cefnogi i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg.
Equal Education Partners
- Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog ac mae’n glir sut i lywio rhwng y tudalennau
Cymraeg a Saesneg drwy ddewis yr iaith o’ch dewis ar frig pob tudalen. - Gallwch ysgrifennu atynt yn Gymraeg a derbyn ateb yn Gymraeg ar unrhyw adeg.
- Gallwch adnabod eu staff sy’n siarad Cymraeg wrth y logo Iaith Gwaith yn eu llofnod
e-bost. - Mae eu holl adnoddau allweddol a blogiau canllaw ar gyfer addysgwyr ar gael yn
Gymraeg. - Mae eu cwrs Diogelu ar gael yn Gymraeg, sy’n orfodol i bob aelod o staff addysgu
newydd ei gwblhau wrth ymuno â’u tîm. Bydd eu holl gyrsiau dysgu proffesiynol eraill
ar gael yn Gymraeg yn fuan hefyd. - Mae cynnwys eu cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog ac mae croeso i chi gysylltu
â nhw yn Gymraeg trwy eu sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Eryri Cydweithredol
- Maent yn cynnig gwasanaeth E-Sgwrs trwy gyfrwng y Gymraeg i’w cleientiaid.
- Maent yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli a chefnogaeth yn Gymraeg i’w gwirfoddolwyr.
- Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog.
- Maent yn gofyn i’w cleientiaid beth yw eu dewis iaith ac yn ymdrechu i ddarparu’r holl wasanaethau yn eu dewis iaith.
- Gallwch siarad yn Gymraeg gyda nhw dros ebost neu dros y ffôn.
Esgobaeth Bangor
- Mae hunaniaeth a delwedd Esgobaeth Bangor yn gwbl ddwyieithog. Bydd egwyddor o gydraddoldeb bob amser, gyda'r Gymraeg yn ymddangos uwchben neu o flaen y Saesneg.
- Maent yn ceisio sicrhau bod pob neges yn cael ei roi’n ddwyieithog ac ar yr un pryd ar eu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol yn ogystal maent yn ymrwmiedig i ddarparu gwefan cwbl ddwyieithog.
- Maent yn ymdrechu i annog a chefnogi staff sy'n dymuno dysgu Cymraeg a chefnogi staff sy'n siarad Cymraeg sydd eisiau gwella eu sgiliau iaith bob amser.
- Maent yn annog unigolion i deimlo’n yn gyfforddus i ddefnyddio eu dewis iaith ffydd wrth addoli. Maent hefyd yn yr un modd yn annog unigolion i gysylltu â nhw yn eu dewis iaith.
- Maent yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i bawb drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
- Drwy groesawu gwesteion a staff o du hwnt i Gymru i Esgobaeth Bangor byddant yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Ffilm Cymru
- Maent yn cynhyrchu ffurflenni cais yn Gymraeg a Saesneg, ac yn croesawu ceisiadau i'r gronfa yn newis iaith yr ymgeisydd.
- Mae'r wefan yn gwbl ddwyieithog, a gellir newid rhwng ieithoedd yn hawdd
- Cyhoeddir pob hysbyseb swydd yn ddwyieithog
- Mae cronfeydd ffilm Cymraeg ar gael i annog defnydd o'r iaith
- Cynigir gwersi Cymraeg am ddim u holl staff yn ystod amser gwaith.
- Defnyddir cortynnau gwddf a bathodynnau Iaith Gwaith mewn digwyddiadau a chyfarfodydd gan siaradwyr Cymraeg a dysgwyr.
- Mae holl arwyddion a deunyddiau marchnata Ffilm Cymru Wales yn ddwyieithog.
- Maent yn cynnig sesiynau cyngor un-i-un yn Gymraeg i wneuthurwyr ffilm
Fflach Cymunedol
Gwefan ddwyieithog
Pob gohebiaeth yn cael ei gynnig yn Gymraeg
Datganiadau a chyswllt gyda'r wasg yn Gymraeg
Holl gyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg neu'n ddwyieithog
Hybu cerddorion i ganu yn Gymraeg
Galeri
- Maent yn hyrwyddo'u digwyddiadau yn Gymraeg.
- Maent yn croesawu ymholiadau gan y cyhoedd yn Gymraeg – ar lafar, drwy e-bost neu lythyr neu ar y we.
- Mae eu gwefan yn gwbl ddwyieithog
- Mae ganddynt fwydlen Gymraeg yn eu caffi.
- Mae eu cyfathrebu mewnol fel cwmni i gyd yn Gymraeg.
GISDA
- Cymraeg yw iaith GISDA, mae eu delwedd gyhoeddus a hunaniaeth gorfforaethol yn gwbl Gymraeg.
- Maent yn rhoi cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg i’w cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth drwy gychwyn sgyrsiau yn Gymraeg.
- Mae eu gweithwyr allweddol yn hyrwyddo pwysigrwydd sgiliau dwyieithog a’r cyfleoedd swyddi lleol a chenedlaethol sydd ar gael o ganlyniad wrth iddynt derbyn hyfforddiant a datblygu sgiliau.
- Bydd GISDA yn parhau i gefnogi eu gweithlu i fod yn hyderus i ddarparu gwasanaethau, cefnogaeth a phrosiectau trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Drwy groesawu gwesteion a thwristiaid o du hwnt i Gymru i Gaffi GISDA, meny yn eu haddysgu ynglŷn â'r Gymraeg a diwylliant Cymru.