Cynnig cefnogaeth yn syth yn Gymraeg wyneb yn wyneb yng ngogledd Cymru neu ar-lein i deuluoedd mewn rhannau eraill o Gymru
Cynnig sesiynau therapi chwarae yn Gymraeg yn Sir y Fflint, Wrecsam a Sir Ddinbych. Mewn rhannau eraill o Gymru, cynnig sesiynau ar-lein gyda phlant os yn addas i’w hoedran. Yn ogystal gall y therapydd chwarae weithio gyda rhieni i’w cefnogi nhw i gefnogi eu plentyn
Gofyn i chi am eich dewis iaith pan yn siarad gyda chi gyntaf, i wneud yn siŵr eu bod ni’n gallu eich cefnogi yn y ffordd orau
Mae siaradwyr Cymraeg 2wish yn gwisgo bathodyn Iaith Gwaith ac yn defnyddio’r logo er mwyn i chi allu eu hadnabod
Mae croeso i chi gysylltu â nhw yn Gymraeg neu yn Saesneg
Mae eu holl gyhoeddiadau yn ddwyieithog neu mae fersiynau Cymraeg a Saesneg ar wahân o’n llyfrynnau iechyd proffesiynol.
Mae AA Drivetech yn cynnig pob cwrs sydd ar gael yng Nghymru yn y Gymraeg ac wedi ymrwymo i gynnig gwasanaeth hollol ddwyieithog.
Byddwch yn gallu cael mynediad at eu gwasanaethau a gwybodaeth am y cyrsiau yn Gymraeg neu’n Saesneg a llywio cynnwys ein gwefan Gymraeg yn hawdd.
Gall cleientiaid archebu yn y Gymraeg dros y ffôn ac ar-lein.
Bydd dewis cyfathrebu yn Gymraeg yn gam hawdd i unrhyw un sy'n cysylltu ag AA Drivetech a byddwn yn cyfathrebu yn eich dewis iaith lle bynnag bo hynny’n bosibl.
Bydd yr holl ddeunyddiau sy'n gysylltiedig â chyrsiau a gynhelir yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog.
Lle bynnag y bydd yn bosibl, bydd eu staff trin galwadau yn atgoffa cwsmeriaid o Gymru sy'n cysylltu â ni sy’n dymuno gwneud cwrs y gallwn ddarparu gwasanaeth hollol ddwyieithog iddynt.
Bydd AA Drivetech yn sicrhau, lle bynnag y bydd yn bosibl, y gall cleientiaid gael mynediad i gwrs yng Nghymru mewn lleoliad sydd o fewn pellter teithio hawdd iddynt.
Mae'r elusen yn croesawu pob math a dull o gyfathrebu yn y Gymraeg. Siaradwch yn Gymraeg gyda nhw os y gwelwch yn gwisgo’r bathodyn
Bydd holl gyhoeddiadau sy’n cael eu creu yng Nghymru ar gael yn ddwyieithog. Bydd deunydd sy’n cael ei greu gan Achub y Plant y DU ar gyfer cynulleidfa ar draws y DU yn cael ei greu’n ddwyieithog pan fydd yn ymwneud â materion yng Nghymru.
Cyfathrebu gyda’r wasg a’r cyfryngau yn y Gymraeg a bydd yn Gymraeg yn flaenllaw ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol.
Darparu llefarwyr sy’n gallu’r Gymraeg i ddod i siarad gyda’ch sefydliad neu ysgol am eu gwaith.
Mae angen aelodau o staff a gwirfoddolwyr dwyieithog arnynt er mwyn gallu cyflawni ein nodau. Byddant yn gwneud pob ymdrech i gefnogi eu staff i ddysgu’r Gymraeg ac wrth recriwtio staff newydd.
Gwasanaeth cwbl Gymraeg. Cwmni Cymraeg yw Adain sydd wedi ei sefydlu i hybu’r Gymraeg ac i godi hyder busnesau i ddefnyddio mwy ar y Gymraeg yn ddigidol.
Maent yn cynnig cymorth ac arweiniad gydag ysgrifennu cynnwys ar gyfer eich platfformau digidol, boed hynny yn wefan, yn gyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu’r ymgyrch farchnata.
Mae’n bleser gan Adain i gydweithio efo busnesau a chynnal gweithdai neu hyfforddiant er mwyn codi hyder mewn elfennau o farchnata digidol dwyieithog.
Gyda dros 20 mlynedd o brofiad yn y maes, mae Adain yn cynnig gwasanaeth marchnata digidol dwyieithog yn cynnwys gwaith gwefan, cyfryngau cymdeithasol, dylunio ac ysgrifennu cynnwys.
Gall Adain gynnig gwasanaeth ymgynghori lle byddant yn edrych ar wahanol agweddau o’ch presenoldeb digidol a chynnig awgrymiadau ac arweiniad ar sut i wella a chynyddu eich cynnwys digidol dwyieithog.
Byddwch yn gallu cyrchu eu holl ddeunydd ar-lein, gan gynnwys y we a chyf-ryngau cymdeithasol, trwy gyfrwng y Gymraeg
Byddwch yn gallu nodi eich dewis ar gyfer derbyn gwasanaeth Cymraeg gan Afallen ar gyfer y rhan fwyaf o brosiectau
Byddent yn defnyddio eich dewis iaith menw e-bost neu gyfathrebiad arall
Byddent yn cefnogi cydweithwyr a chymdeithion i ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg, gan gynnwys trwy amser a neilltuwyd yn ystod y diwrnod gwaith. Manylir ar y cynnig hwn yn y llawlyfr staff
Gallwch gysylltu drwy e-bost neu dros y ffôn yn Gymraeg neu’n Saesneg
Gall cwsmeriaid siarad gyda aelod staff sy’n siarad Cymraeg
Mae gwefan a’i negeseuon cyfryngau cymdeithasol yn ddwyieithog
Mae holl gynnyrch a gwasanaethau ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae’r defnydd o Gymraeg yn y gweithle yn cael ei annog ac mae ‘awyrgylch ddiogel’ wedi greu i alluogi staff wella eu dealltwriaeth a’u sgiliau. Mae’r gwaith hwn yn cael ei arwain gan ein Pencampwyr Iaith Gymraeg.
Mae cyhoeddiadau ac arddangosfeydd hunan-wasanaeth yn ddwyieithog.
Mae’r holl arwyddion yn y siopau, yn ogystal ag yn ystod y gwaith o adeiladu’r siopau, yn cael eu harddangos yn Gymraeg a Saesneg.
Mae staff sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith ac maent y broses o gyfieithu bathodynnau enw fel bod teitlau swyddi yn cael eu harddangos yn Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
Mae digwyddiadau ar gyfer siopau newydd dan arweiniad Gweithrediadau’r Siop ac Eiddo Tirol yn Gymraeg ac yn Saesneg. o Mae taflenni / deunyddiau marchnata ar gyfer siopau newydd yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn rhanbarthau perthnasol. o Mae cyhoeddiadau sy’n rhoi gwybod i gwsmeriaid am y tiliau yn agor a chau yn ddwyieithog. o Mae gan eu cynnyrch brand Cymreig ni becynnu dwyieithog, gan gynnwys llaeth, menyn, caws a chig.