Mae eu gwybodaeth allweddol a’u deunyddiau ymgyrchu ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Gall cwnselwyr Cymraeg siarad â phlant yn Gymraeg drwy eu gwasanaeth Childline. Maent yn hysbysebu pryd mae’r gwasanaeth Cymraeg ar gael ar wefan Childline. Mae Childline yn cael ei hyrwyddo’n ddwyieithog.
Gall plant a phobl ifanc ofyn am gael siarad â chwnselydd Cymraeg. Os nad oes cwnselwyr Cymraeg ar gael ar y pryd, yna gallant gael gwybodaeth ynghylch pryd y bydd cwnselydd Cymraeg ar gael.
Bydd plant a phobl ifanc yn gallu darllen eu gwybodaeth fwyaf poblogaidd ar wefan Childline yn Gymraeg.
Mae modd anfon e-byst yn Gymraeg at help@nspcc.org.uk a byddent yn ymateb yn Gymraeg.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut mae rhoi gwybod am gamdriniaeth yn Gymraeg ar eu gwefan.
Mae eu cynlluniau gwersi ac adnoddau sydd wedi’u llunio ar gyfer ysgolion ar gael yn Gymraeg.
Mae eu rhaglen Cofia Ddweud. Cadwa’n ddiogel. SEND/ASN/ALN ar gael yn Gymraeg.