Mae RCS yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg ar bob cam o’r ddarpariaeth ac yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth cyflawn yn eich iaith ddewisol.
Rydych yn gallu cyrchu gwefan RCS yn llawn yn Gymraeg neu Saesneg
Hyrwyddo eu gwasanaethau a’i gwybodaeth yn ddwyieithog gan gynnwys marchnata a hyrwyddo, y cyfryngau cymdeithasol, recriwtio a gwybodaeth am wasanaethau.
Cefnogi ac annog defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, drwy fynd ati’n rhagweithiol i recriwtio siaradwyr Cymraeg (lle mae’r angen wedi’i nodi), annog defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn y gweithle a galluogi/annog staff i wneud cyrsiau Cymraeg.
Bydd staff RCS sy’n siarad Cymraeg yn gwisgo bathodynnau Iaith Gwaith ac yn defnyddio eu llofnod e-bost i hybu’r gallu i gyfathrebu yn Gymraeg neu Saesneg.