Maent yn cynnig gweithdai i ysgolion a chylchoedd meithrin gan edrych ar gysylltedd natur, lles a’r Celfyddydau Mynegiannol yn uniaith Gymraeg neu’n ddwyieithog.
Hyfforddiant staff addysgu dwyieithog.
Ysgol Goedwig i blant neu oedolion yn ddwyieithog.
Creu adnoddau digidol i ddysgwyr ac addysgwyr yn ddwyieithog.
Mae croeso i chi gysylltu gyda nhw yn Gymraeg, a maent yn defnyddio’r Gymraeg ar ein cyfryngau cymdeithasol.
Gwasanaeth bar, gweini bwyd a llogi drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cynnal arlwy o ddigwyddiadau cymunedol Cymraeg a Chymreig eu naws yn cefnogi bandiau a diddanwyr lleol. Mae celf gan artisitiad lleol a chefndir Cymreig yn yr adeilad a cherddoriaeth Gymraeg gefndirol i’w chwarae drwy’r amser.
Cyd-weithio efo phartneriaid lleol sy’n hybu’r iaith Gymraeg ee. Hunaniaith, Yr Amgueddfa a Cwrw Llyn.
Cynnig cynnyrch Cymreig a lleol- cwrw a diodydd, cynhwysion prydau bwyd a byrbrydau bar. Mae eu bwydlenni yn Gymraeg.
Y staff yn gallu sgwrsio efo chwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg.
Cyd-weithio efo Dysgwyr Dwyfor i gynnal sesiynau i ddysgwyr.
Hwb Cymunedol sef gwasanaeth sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i drigolion lleol sy’n wynebu amrywiaeth o heriau, yn enwedig heriau’n ymwneud â’r argyfwng costau byw. Byddwn yn darparu’r gefnogaeth yma’n ddwyieithog.
Mae pob gohebiaeth rhwng Yr Orsaf a mudiadau eraill/ cwsmeriaid sy’n cysylltu â ni yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg e.e. drwy ebost, dros y ffôn, ar y cyfryngau cymdeithasol, wyneb i wyneb.
Digwyddiadau- amryw o sesiynau a digwyddiadau gan gynnwys teithiau cerdded, sesiynau chwarae i blant, swper cymunedol, sesiynau garddio, sesiynau cymdeithasu i’r henoed ayyb. Mae eu digwyddiadau yn cael eu cynnal yn ddwyieithog.
Gwefan dwyieithog.
Trafnidiaeth Cymunedol sef cynllun sy’n cynnig trafnidiaeth i aelodau hŷn a bregus y gymuned gan ddefnyddio ein cerbydau trydan. Mae’r cynllun yn un dwyieithog
Mae bwydlenni’r caffi yn gwbl ddwyieithog, a gallwch archebu yn Gymraeg.