· Mae Engage Cymru yn croesawu gohebiaeth yn y Gymraeg. Bydd unrhyw ohebiaeth Gymraeg yn derbyn ateb Cymraeg
· Cyfryngau Cymdeithasol – mae gan Engage Cymru dudalen Facebook ble maent yn rhannu gwybodaeth ddwyieithog. Maent yn rhannu Instagram gydag Engage UK ond caiff yr holl weithgaredd yng Nghymru ei rannu’n ddwyieithog.
· Hyrwyddo’r Gymraeg - yn Engage Cymru maent yn annog ac yn cefnogi pobl i ddefnyddio’r Gymraeg, p’un a ydyn nhw’n siaradwyr iaith gyntaf neu’n ddysgwyr. Bydd eu delwedd ddwyieithiog yn annog pobl i ddefnyddio’r Gymraeg gyda nhw. Byddent yn edrych ar ffyrdd i allu cynnig mwy o ddigwyddiadau a chyfleoedd yn Gymraeg gan gysylltu a chydweithio gyda sefydliadau Cymraeg eraill.
· Bydd gan bob digwyddiad wyneb yn wyneb gyflwyniadau dwyieithog, a’r cyfle i sgwrsio’n Gymraeg.
· Ym mhob digwyddiad wyneb yn wyneb bydd staff yn gwisgo’r bathodyn Iaith Gwaith.