Mae eu gwasanaethau, fel y Llinell Gymorth a gwasanaethau Cwnsela ar gael yn Gymraeg.
Mae gwybodaeth am eu gwasanethau cymorth, gan gynnwys taflenni gwybodaeth a phecynnau croeso, ar gael yn Gymraeg a Saesneg. Mae deunyddiau eraill, fel deunydd codi arian ac ymgyrchoedd, ar gael yn ddwyieithog lle bo’n bosib.
Maent yn croesawu cyfathrebu yn Gymraeg a Saesneg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael drwy ein Llinell Gymorth, byddent yn trefnu bod rhywun yn eich ffonio yn ôl cyn gynted â phosib. Os ydych yn ysgrifennu atynt yn Gymraeg, byddent yn ymateb yn Gymraeg.
Mae'r tudalennau allweddol ar eu gwefan ar gael yn ddwyieithog, gan gynnwys gwybodaeth am ganser, eu gwasanaethau, a sut i gysylltu â nhw. Mae'r ieithoedd yn ymddangos ar wahân, ac mae modd i'r defnyddiwr symud o un iaith i'r llall ar unrhyw adeg trwy ddefnyddio botwm iaith amlwg, ar frig y dudalen.
Maent yn falch bod ganddynt nifer o staff sy'n siarad Cymraeg. Maenr yn eu hannog i amlygu eu sgiliau i'r cyhoedd gydag adnoddau Iaith Gwaith gan gynnwys bathodynnau, cortynnau gwddf, cardiau busnes.
Mae ganddynt siaradwyr Cymraeg ar gyfer cyfweliadau’r wasg a chyfryngau.
Iaith swyddogol y cwmni yw Cymraeg a mae pob gohebiaeth yn digwydd yn y Gymraeg gyntaf.
Gwefan dwyieithog.
Nid oes yr un cwmni arall yn teithio mor eang gan ymweld ag amrywiaeth o gymunedau o’r Gogledd i’r De, ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin, gan gynnwys ardaloedd diarffordd a gwledig, er mwyn perfformio yn Gymraeg.
Sicrhau fod pawb, ble bynnag y bônt, yn cael cyfle i brofi digwyddiadau celfyddydol drwy’r Gymraeg.
Parhau i gynnig gwasanaeth unigryw i gynulleidfaoedd ar lawr gwlad drwy ddiwallu’r angen am weithgaredd theatrig celfyddydol safonol, proffesiynol wrth galon cymunedau’r genedl, a hynny, yn bennaf, yn yr iaith Gymraeg.
Darparu cynyrchiadau iaith Gymraeg o safon uchel dros Gymru a thu hwnt.
Darparu gweithdai ymgysylltiol yn Gymraeg i grwpiau ysgol a chymunedau.
Cefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg o fewn y diwydiant theatr ac yn cynnig y cyfle i weithio yn y Gymraeg.
Darparu adnoddau dwyieithog i ysgolion i gyd-fynd gyda’n cynyrchiadau i ysgolion.
Anelu i gynyddu'r nifer o gynyrchiadau iaith Gymraeg ac yn gweithio gyda chyd-gynhyrchwyr yn y cymoedd i ymgysylltu gyda’u siaradwyr a dysgwyr Cymraeg lleol.
Gallwch ddysgu am eu gwaith ar ei gwefan neu ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.
Cyfres Triathlon Cymru ar S4C– Mae’r gyfres yn rhoi llwyfan i’r gamp i siaradwyr Cymraeg. Mae’n haelodau sy'n siarad Cymraeg yn llysgenhadon i'r Gymraeg yn Triathlon felly yn falch o ddweud wrth S4C pwy yw'r siaradwyr Cymraeg ar gyfer ffilmio.
Mae’r Gymraeg yn amlwg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol ac yn gynyddol ar ein gwefan - os ydych am ymateb yn Gymraeg i'n negeseuon, byddwn yn eich ateb yn Gymraeg.
Mae ganddynt swyddogion i fod yn bwynt cyswllt i siaradwyr Cymraeg os ydynt am gyfathrebu â Triathlon Cymru drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch eu hadnabod gyda’r bathodyn Iaith Gwaith ar ein gwefan ac mewn digwyddiadau. Gallwch adnabod eu Swyddogion Technegol sy’n siarad Cymraeg mewn digwyddiadau gyda nwyddau Iaith Gwaith.
Gallwch ddarllen ein Adroddiad Blynyddol yn ddwyieithog.
Mae’r cylchlythyr wythnosol ynddwyieithog – y Gymraeg a’r Saesneg ochr yn ochr gyda’r Gymraeg yn gyntaf.