· Maent yn darparu gohebiaeth yn Gymraeg, ac mae unrhyw ohebiaeth sy’n dod i law yn y Gymraeg yn cael ei ateb yn Gymraeg.
· Maent yn cynnig Sain Ddisgrifiad dwyieithog ym mhob perfformiad o’u prif gynyrchiadau
· Bydd eu gwefan, eu cyfryngau cymdeithasol, a’u gwybodaeth gyhoeddus ar gael yn Gymraeg bob amser.
· Mae Ballet Cymru yn ymrwymo i greu cynyrchiadau teithiol sy’n dathlu Cymru a’r Gymraeg. Mae eu cynyrchiadau yn dathlu’r iaith ar bob cyfle.
· Maent yn ymrwymo i feithrin artistiaid Cymraeg trwy gomisiynau, addysgu, hyfforddiant, a chyfleoedd eraill i wneud Ballet Cymru yn ofod cefnogol iddynt dyfu a datblygu ynddo.