Hyfforddiant

Rydym yn cynnig sesiynau hyfforddiant i fusnesau ac elusennau ar sut i ddatblygu gwasanaethau dwyieithog.

Rydym yn anelu’r sesiynau at swyddogion sy’n ymwneud â threfnu a chynllunio gwasanaethau Cymraeg o fewn sefydliad.

Rydym yn cynnig nifer o sesiynau drwy gydol y flwyddyn ar y cyd â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, a gallwch gofrestru am gwrs isod.

Cofrestru am gwrs

Os ydych yn derbyn cyllid gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol byddwch yn cael eich gwahodd ar gyrsiau penodol.

Gallwn drafod cynnal cyrsiau gyda sectorau penodol. Cysylltwch â ni i drafod ymhellach.

Cysylltu â ni

“Roedd y sesiwn o fudd i ni ac roedd y wybodaeth yn glir ac yn effeithiol dros ben. Cawsom lwyth o dips syml ac roedd y wybodaeth yn cael ei drosglwyddo mewn arddull ddealladwy. Os yw eich prosiectau chi yn cael y cynnig i gwneud y sesiynau yma ewch amdani.”


Fforwm Cymunedol Penparcau