
Rydym ni’n aml yn derbyn ymholiadau o bob cwr o’r byd am waith y Comisiynydd a sefyllfa’r Gymraeg yng Nghymru, ac rydym wrth ein bodd yn croesawu grwpiau sydd am ymweld â ni i ddysgu rhagor.
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith (IALC), ac ar hyn o bryd ni sy’n gyfrifol am gadeiryddiaeth ac ysgrifenyddiaeth y gymdeithas. Bydd cynhadledd nesaf IALC yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd ym mis Mehefin 2024.
Cafodd IALC ei sefydlu yn 2014 â’r bwriad o gefnogi a hyrwyddo hawliau, cydraddoldeb ac amrywiaeth ieithyddol ledled y byd a chefnogi comisiynwyr iaith fel eu bod yn gallu gweithio gan gadw at y safonau proffesiynol uchaf. Mae gan y gymdeithas aelodau o bob cwr o’r byd, gan gynnwys Kosovo, Canada, Iwerddon a Sbaen.
Yn 2019 cyhoeddodd y gymdeithas gyfrol sy’n rhoi sylw i rôl, swyddogaeth a dulliau gweithio comisiynwyr iaith ledled y byd. Bwriad Constitutional Pioneers: Language Commissioners and the Protection of Official, Minority and Indigenous Languages (Éditions Yvon Blais, 2019) yw cyfannu at amcan IALC i addysgu pobl, llywodraethau a llunwyr polisi ar draws y byd am bwysigrwydd strategol comisiynwyr iaith i warchod a hyrwyddo ieithoedd a’u siaradwyr. Mae’n cynnwys cyfraniadau gan academyddion ac ymarferwyr mewn cyfrol dwy ran sy’n cyfuno theori ag arfer.
Cewch ragor o wybodaeth am y gyfrol yma.
Gallwch ddarllen pennod o’r llyfr am waith Comisiynydd y Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yma.
Cofleidia dy iaith: Cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith
Cynhaliwyd wythfed cynhadledd Cymdeithas Ryngwladol y Comisiynwyr Iaith yng Nghaerdydd ar 11 Mehefin 2024. Roedd y gynhadledd yn gyfle i archwilio effeithiau trawsnewidiol deddfu o blaid ieithoedd yng Nghymru a thu hwnt. Yn ogystal â sesiynau ymarferol yn rhannu profiadau sefydliadau o Gymru, roedd cyfraniadau gan y prif siaradwyr isod:
- Raymond Théberge, Comisiynydd Ieithoedd Swyddogol Canada
- Yr Athro Fernand de Varennes, Cyn-Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifoedd
- Séamas Ó Concheanainn, Coimisinéir Teanga