Strategaethau 5 mlynedd i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg
Mae Rheoliadau Rhif 1 Safonau’r Gymraeg yn gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol a Pharciau Cenedlaethol i baratoi strategaeth 5 mlynedd sy’n esbonio sut mae nhw n bwriadu hybu’r Gymraeg a hyrwyddo ei defnydd yn ehangach o fewn eu ardaloedd.
Rhaid i’r strategaethau gynnwys targedau ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg erbyn diwedd cyfnod y strategaeth, a datganiad sy’n esbonio sut mae’r sefydliad yn bwriadu cyrraedd y targed hwnnw.
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi dogfen gyngor i sefydliadau wrth iddynt baratoi a gweithredu eu strategaethau.
Adolygu’r strategaethau
Mae’n rhaid i’r sefydliadau hefyd adolygu’r strategaeth ar ôl y cyfnod 5 mlynedd a chyhoeddi adroddiad a fersiwn ddiwygiedig o’r strategaeth.
Mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi dogfen gyngor i sefydliadau wrth iddynt asesu ac adrodd ar gyrhaeddiad eu strategaethau hybu.
Yn ogystal, cynhaliwyd digwyddiad yn trafod sut i fynd at i weithredu a mesur cyrhaeddiad strategaethau hybu. Gallwch wylio recordiad o’r sesiwn yma.
Arferion da
- Mae Cyngor Sir Ynys Môn wedi gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu strategaeth effeithiol i hybu’r Gymraeg ar yr ynys.
- Roedd amcanion Strategaeth Hybu 5 mlynedd cyntaf Cyngor Caerdydd yn talu sylw arbennig i ddulliau ymgynghori mewnol ac allanol y Cyngor.
- Wrth greu strategaeth hybu’r Gymraeg yn Sir Gâr, roedd y Cyngor yn cydnabod pwysigrwydd yr holl weithgareddau ar lawr gwlad a oedd yn cyfrannu at gynyddu defnydd a hyder siaradwyr ar draws y sir.