Mae’r Safonau yn ddyletswyddau sydd yn cael eu gosod ar sefydliadau gan y Comisiynydd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y meysydd canlynol:
- Cyflenwi gwasanaethau
- Llunio polisi
- Gweithredu
- Hybu
- Cadw cofnodion

Mae’r Safonau yn rhoi hawl i siaradwyr Cymraeg ddefnyddio'r iaith wrth ymwneud â’r sefydliadau.
Mae gan y Comisiynydd hefyd bŵer i orfodi’r safonau sydd wedi’u gosod ar sefydliad.
Mae'r safonau yn hybu a hwyluso’r Gymraeg, ac yn sicrhau nad yw’r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg yng Nghymru.