Mae ymgyrch 'Defnyddia dy Gymraeg' yn ymgyrch flynyddol sy'n rhoi cyfle i sefydliadau o bob math ar draws Cymru hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg. Mae’r ymgyrch hefyd yn annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd. 

Defnyddia dy Gymraeg

Nod yr ymgyrch yw annog pawb i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddynt, ac i fusnesau, elusennau a sefydliadau o bob math hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’r cyhoedd. 

Dylid annog pobl o bob oed o bob cefndir ar draws Cymru i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd - gartref, yn y gwaith, yn y siop, wrth gymdeithasu, dros y ffôn, wyneb yn wyneb ac ar-lein.

Defnyddia dy Gymraeg

Mae gwaith rheoleiddio sefydliadau cyhoeddus gan y Comisiynydd yn arwain at fwy o wasanaethau ar gael yn y Gymraeg, ac mae angen sicrhau bod siaradwyr y Gymraeg yn hyderus i fedru defnyddio’r iaith.  

Mae’r cydweithio gyda busnesau ac elusennau drwy gynllun y Cynnig Cymraeg, hefyd yn cynyddu’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael ganddyn nhw.

Mae cynyddu gwasanaethau Cymraeg a’u hyrwyddo yn allweddol i sicrhau bod pobl yn gallu defnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd.

Defnyddia dy Gymraeg

Eisiau cymryd rhan yn yr ymgyrch?

Rydym yn gweithio gyda sefydliadau ar draws Cymru i dynnu sylw at y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i'r cyhoedd.

Os hoffech gymryd rhan yn yr ymgyrch yn y dyfodol, neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni.

Podlediad Defnyddia Dy Gymraeg

Yn y podlediad arbennig hwn i gyd-fynd ag ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg 2024, mae Hanna Hopwood yn cael cwmni Non, Rachel ac Emma o’r grŵp Eden ac yn sgwrsio am eu profiadau nhw gyda’r iaith Gymraeg yn eu bywydau personol, ac yn eu gyrfaoedd.

Rydym yn agored i gydweithio ag eraill ar gyfer ymgyrch 2026. Mae croeso i chi gysylltu os hoffech drafod unrhyw gyfleoedd i gydweithio.