Yn unol â’r egwyddor o gyd-reoleiddio, bydd y Comisiynydd yn gweithio i roi mwy o arweiniad a chefnogaeth i sefydliadau er mwyn gwella cydymffurfiaeth a gwella’r gwasanaethau sydd yn cael eu cynnig i’r cyhoedd.
Bydd hyn yn digwydd drwy gynllun hyrwyddo cydymffurfiaeth, a fydd yn cynnwys, ymysg pethau eraill, cyfres o ddigwyddiadau a sesiynau ar draws y flwyddyn. Byddwn hefyd yn datblygu adnoddau a chanllawiau ymarferol ac yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gyda sefydliadau.
Bydd adran Cymorth ac Adnoddau’r wefan yn cael ei datblygu i adlewyrchu’r gwaith yma, a’r rhaglen ddigwyddiadau yn cael ei chyhoeddi yma.
Rhaglen Ddigwyddiadau
Byddwn yn trefnu nifer o sesiynau trafod a digwyddiadau gwybodaeth ar draws y flwyddyn a bydd y rhaglen yma yn cael ei diweddaru wrth i fanylion (e.e. dyddiadau a lleoliadau) gael eu cadarnhau. Byddwn hefyd yn anfon gwahoddiadau uniongyrchol i sefydliadau gyda unrhyw agendau a manylion cofrestru ychwanegol.
Mae rhaglen ddigwyddiadau hyrwyddo cydymffurfiaeth y Comisiynydd ar gyfer y flwyddyn 2024-25 bellach wedi dod i ben.
Rydym wrthi’n trefnu’r rhaglen lawn ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd manylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan.