Mae cynyddu’r defnydd o wasanaethau Cymraeg yn un o flaenoriaethau strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ac mae hefyd yn faes blaenoriaeth o fewn cynllun gweithredol y Comisiynydd.
Ein nod yw bod siaradwyr Cymraeg yn dewis defnyddio gwasanaethau Cymraeg fel rhan arferol o fywyd bob dydd, a bod siaradwyr yn teimlo’n hyderus i’w defnyddio.
Mae hyrwyddo gwasanaethau Cymraeg yn gofyn am fwy na dim ond eu darparu. Mae dyletswydd ar sefydliadau cyhoeddus i hyrwyddo eu gwasanaethau Cymraeg er mwyn annog mwy o bobol i’w defnyddio.
Mae’n hanfodol felly bod y gwasanaethau yn weledol, yn hygyrch, yn hawdd eu deall a’u defnyddio, a bod ansawdd profiad y defnyddiwr yn gwbl gyfartal yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Cyngor, arweiniad ac arferion da
Mae gan y Comisiynydd nifer o ddogfennau cyngor ac arferion da i helpu sefydliadau i gynllunio a darparu gwasanaethau yn Gymraeg i’r cyhoedd.
Mae’r adnoddau yma’n cynnig syniadau ymarferol a sut i fynd ati i gydymffurfio â dyletswyddau iaith statudol, a hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg yn eich sefydliad.
Dogfennau cyngor
Trefniadau i sicrhau cydymffurfiaeth
Darparu gwasanaethau Cymraeg
Cynyddu'r defnydd o’r Gymraeg
Arferion da
Mae’r Comisiynydd yn hwyluso a galluogi sefydliadau i rannu a dysgu gan ei gilydd, drwy gasglu a rhannu arferion da sydd ar waith o fewn sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru. Mae cyfres o astudiaethau achos i’w gweld isod:
Cwestiynau cyffredin: gwasanaeth trydydd parti
Ar adegau, bydd trydydd parti yn darparu gwasanaethau neu’n cyflawni gweithgaredd ar ran sefydliadau. Pan fo hynny’n digwydd, mae’r dyletswyddau o dan y safonau yn parhau i fodoli. Dyma gyfres o gwestiynau cyffredin sy’n egluro mwy ar hyn: