Logo Enwau Lleoedd Safonol Cymru

Rydym yn cynnig cyngor i unigolion a sefydliadau o bob math ar ffurfiau safonol enwau lleoedd yng Nghymru. Gallwch ddod o hyd i Restr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru yma. 

Rydym hefyd wedi datblygu API allai fod o ddiddordeb penodol i ddatblygwyr meddalwedd – cysylltwch â ni i drafod. Mae rhagor o fanylion am y drwydded a’r hawlfraint isod.

Llun map o ogledd Cymru

Mae’r Panel Safoni Enwau Lleoedd yn dilyn canllawiau cenedlaethol wrth safoni enwau lleoedd. Gallwch weld y rhain yma: 

Lawrlwytho Canllawiau Safoni Enwau Lleoedd Cymru

© Comisiynydd y Gymraeg (2018) 

Mae'r rhestr hon wedi'i thrwyddedu o dan y Drwydded Llywodraeth Agored v3.0 ac eithrio pan nodir yn wahanol. Yn cynnwys data Arolwg Ordnans © Hawlfraint a hawliau cronfa ddata’r Goron 2018. 

Pam safoni enwau lleoedd?

Y panel safoni enwau lleoedd

 

Mae Panel Safoni Enwau Lleoedd Comisiynydd y Gymraeg yn cynnwys arbenigwyr ym maes enwau lleoedd ac ym maes orgraff y Gymraeg. Mae’r Panel yn dilyn canllawiau penodol wrth lunio’i argymhellion ynghylch ffurfiau safonol enwau lleoedd ac yn cynnig cyngor annibynnol i’r Comisiynydd ar faterion cysylltiedig.