Sut mae modd defnyddio mwy o Gymraeg yn y clwb chwaraeon?
Defnyddio'r Gymraeg mewn chwaraeon
Yn ôl ymchwil Chwaraeon Cymru, mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon a gwirfoddoli.
Mae nifer o resymau pam y dylai clybiau chwaraeon ddefnyddio’r Gymraeg wrth hyfforddi. Gallwch anelu at ddenu mwy o aelodau a gwirfoddolwyr, a sicrhau bod yr aelodau presennol sy’n siaradwyr Cymraeg yn cael chwarae teg.