Pecyn Cefnogi i Swyddogion Iaith
Crëwyd swydd Comisiynydd y Gymraeg gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (“y Mesur”). Efa Gruffudd Jones yw’r Comisiynydd ers Ionawr 2023.
Prif nod statudol y Comisiynydd yw hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, ac rydym eisiau i Gymru fod yn wlad lle gall pobl fyw eu bywydau yn Gymraeg.
Wrth gyflawni’r nod hwn, mae’r Mesur yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ganolbwyntio ar:
- gynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg
- cynyddu’r defnydd ohonynt,
- a chynyddu cyfleoedd eraill i bobl ddefnyddio’r Gymraeg.
Mae’r Mesur hefyd yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru, ac yn sefydlu’r egwyddor na ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Mae’r Mesur yn ein galluogi i wneud sawl peth i hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg, gan gynnwys:
- gosod a gorfodi dyletswyddau drwy safonau’r Gymraeg
- annog a rhannu arferion llwyddiannus
- llunio a chyhoeddi adroddiadau a gwneud gwaith ymchwil neu gomisiynu eraill i’w wneud
- gwneud gweithgareddau addysgol neu gomisiynu eraill i’w gwneud
- cyflwyno sylwadau neu roi cyngor i unrhyw un, gan gynnwys gwneud argymhellion ysgrifenedig i Weinidogion Cymru
- cynnal ymholiad statudol mewn maes penodol.
Cyflwynodd y Mesur drefniadau i drosglwyddo’r swyddogaethau sy’n ymwneud â chynlluniau iaith Gymraeg i’r Comisiynydd. Mae sefydliadau cyhoeddus nad ydynt eto’n ddarostyngedig i’r safonau yn parhau i weithredu cynlluniau iaith o dan Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993. Sefydlodd y Ddeddf hon yr egwyddor mai dylid trin y Gymraeg a’r Saesneg fel ieithoedd cyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus ac wrth weinyddu cyfiawnder yng Nghymru.
Mae cynlluniau iaith Gymraeg yn nodi pa wasanaethau y darperir yn Gymraeg yn unol â’r egwyddor hon, ac mae’r Comisiynydd yn gyfrifol am reoleiddio’u gweithrediad.
Yn ymarferol, gellir disgrifio gwaith y Comisiynydd fel un sy’n gweithredu ar draws tri maes cysylltiedig:
- Rheoleiddio
- Hybu
- Dylanwadu a Chyfathrebu
Rheoleiddio: Yn gyfrifol am osod cyfeiriad strategol i waith rheoleiddio Comisiynydd y Gymraeg, gan gynnwys gosod a gorfodi dyletswyddau ar sefydliadau i ddefnyddio’r Gymraeg.
Strategol: Yn gyfrifol am arwain gwaith y Comisiynydd mewn meysydd polisi, hybu, isadeiledd, ymchwil a chyfathrebu.
Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol: Yn gyfrifol am oruchwylio llywodraethiant corfforaethol, gan gynnwys rheoli risg, diogelu data a chydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol, yn ogystal ag adnoddau dynol a chyllid.
Fel swyddog iaith sy’n gweithio i sefydliad sydd naill ai’n gweithredu safonau'r Gymraeg neu gynllun iaith Gymraeg, bydd y rhan fwyaf o’ch cyswllt â swyddfa'r Comisiynydd gyda’r Gyfarwyddiaeth Rheoleiddio. Mae’r timau o fewn y gyfarwyddiaeth wedi’u nodi isod:
- Tîm Gosod ac Ymchwilio
- Dau dîm Hyrwyddo Cydymffurfiaeth
Tîm Gosod ac Ymchwilio
Mae’r Tîm Gosod ac Ymchwilio yn gyfrifol am y swyddogaethau statudol sy’n ymwneud â gosod dyletswyddau a delio â methiannau posibl i gydymffurfio. Mae hyn yn cynnwys:
Gosod safonau: Y broses o osod safonau ar sefydliadau sy’n dod o dan Reoliadau penodol. Mae rhagor o wybodaeth am y broses o osod safonau, ynghyd â’r Rheoliadau sydd wedi’u cymeradwyo gan Senedd Cymru, ar gael ar ein gwefan.
Gweithdrefn Gwyno: gweinyddu gweithdrefn gwyno ac ymchwilio’r Comisiynydd ar gyfer y gyfundrefn Safonau a’r gyfundrefn cynlluniau iaith. Mae rhagor o wybodaeth am ein gweithdrefnau cwyno ar gael ar ein gwefan.
Cynnal ymchwiliadau statudol: ymchwilio i honiadau o fethiant i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg, yn ogystal ag ymchwiliadau o dan Ddeddf 1993, yn unol â pholisi gorfodi Comisiynydd y Gymraeg, sy’n egluro sut a phryd y cynhelir ymchwiliadau, a pha gamau y gellir eu cymryd.
Paratoi dyfarniadau ac argymhellion: llunio casgliadau ffurfiol ar sail ymchwiliadau a chyflwyno argymhellion i’r Comisiynydd ynghylch camau priodol.
Timoedd Hyrwyddo Cydymffurfiaeth
Y ddau dîm Hyrwyddo Cydymffurfiaeth yw’r prif bwynt cyswllt i’r rhan fwyaf o sefydliadau o ddydd i ddydd. Yn fras, mae rôl swyddogion Hyrwyddo Cydymffurfiaeth yn cynnwys
- Hyrwyddo dealltwriaeth o safonau’r Gymraeg neu gynlluniau iaith ymysg sefydliadau sy’n ddarostyngedig iddynt.
- Cynghori sefydliadau ar sut i weithredu’u dyletswyddau yn ymarferol, a darparu arweiniad ar arferion da.
- Monitro cydymffurfiaeth drwy gasglu gwybodaeth, cynnal arolygon a nodi meysydd risg.
- Cefnogi gwaith gorfodi drwy godi pryderon, gweithio’n agos gyda’r Tîm Gosod ac Ymchwilio, a helpu sefydliadau i wella cyn bod angen camau ffurfiol.
- Datblygu a chynnal perthnasoedd cadarn â sefydliadau i’w cefnogi i gyflawni eu dyletswyddau ieithyddol.
Mae swyddogion Hyrwyddo Cydymffurfiaeth yn gweithio i wella perfformiad sefydliadau wrth iddynt ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg, drwy fonitro ac oruchwylio eu cydymffurfiaeth. Yn unol ag egwyddor cyd‑reoleiddio, mae’r Comisiynydd yn darparu arweiniad a chefnogaeth i sefydliadau er mwyn cryfhau eu cydymffurfiaeth a gwella ansawdd y gwasanaethau Cymraeg a gynigir i’r cyhoedd.
Gellir darllen mwy am Gynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth y Comisiynydd ar ein gwefan.
Mae gan bob swyddog Hyrwyddo Cydymffurfiaeth bortffolio o sefydliadau, ac mae gan bob sefydliad sy’n ddarostyngedig i Safonau’r Gymraeg neu sydd â Chynllun Iaith Gymraeg swyddog cyswllt penodol o fewn un o’r timau hyn.
Os nad ydych yn gwybod pwy yw eich swyddog cyswllt, cysylltwch â ni drwy e‑bost post@cyg-wlc.cymru neu drwy ffonio 0345 6033 221, a bydd eich swyddog cyswllt yn cysylltu â chi.
Unwaith y bydd eich swyddog cyswllt wedi gwneud hynny, bydd eich manylion yn cael eu cynnwys ar ein rhestr gyswllt er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn:
- gwahoddiadau i gyfarfodydd, seminarau a gweithdai perthnasol; a
- chopi o gylchlythyr rhanddeiliaid y Comisiynydd yn rheolaidd.
Mae copïau blaenorol o’r cylchlythyr ar gael hefyd ar ein gwefan.
Yn ddibynnol ar natur eich ymholiad, dylech gysylltu â’r swyddogion canlynol:
- Cwestiynau am ddehongli neu weithredu safonau’r Gymraeg neu gynllun iaith Gymraeg: Cysylltwch â’ch swyddog cyswllt o fewn y Timoedd Hyrwyddo Cydymffurfiaeth.
- Cwestiynau am sut i fabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg neu diwygio cynllun presennol: Cysylltwch â’ch swyddog cyswllt o fewn y Timoedd Hyrwyddo Cydymffurfiaeth.
- Cwestiynau am y broses o osod safonau’r Gymraeg: Cysylltwch â’r Tîm Gosod ac Ymchwilio - ymchwiliadau@cyg-wlc.cymru
- Cwestiynau ynghylch y weithdrefn gwynion/broses ymchwilio: Cysylltwch â’r Tîm Gosod ac Ymchwilio - ymchwiliadau@cyg-wlc.cymru
- Cwestiynau ynghylch ymchwiliad i amheuaeth o fethiant i gydymffurfio a Safonau’r Gymraeg neu gynllun iaith Gymraeg: Cysylltwch â’r Tîm Gosod ac Ymchwilio - ymchwiliadau@cyg-wlc.cymru
- Ymholiadau polisi, cyfathrebu neu ymchwil: Cysylltwch â’r Gyfarwyddiaeth Strategol - post@cyg-wlc.cymru
- Materion corfforaethol, data neu adnoddau: Cysylltwch â’r Gyfarwyddiaeth Llywodraethiant a Gwasanaethau Corfforaethol - post@cyg-wlc.cymru
Mae rhagor o wybodaeth am sut i gysylltu â swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ar ein gwefan.
Mae gan y Comisiynydd ystod eang o ddogfennau cyngor, canllawiau ac arferion da i gynorthwyo sefydliadau i gynllunio a darparu gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
Mae’r adnoddau hyn yn cynnig:
- syniadau ymarferol ar sut i fynd ati i gydymffurfio â dyletswyddau iaith statudol
- arweiniad ar hyrwyddo defnydd o’r Gymraeg o fewn sefydliadau
- cefnogaeth i wella ansawdd a chysondeb gwasanaethau Cymraeg.
Ceir rhestr o’r dogfennau cyngor sydd ar gael ar ein gwefan.
Mae codau ymarfer yn helpu egluro gofynion y safonau mewn ffordd ymarferol, ac fe’u cyhoeddir gan y Comisiynydd i gefnogi sefydliadau. Mae codau ar gyfer rheoliadau 1 a 7 wedi’u cymeradwyo eisoes, tra bod rhai ar gyfer rheoliadau 2, 4, 5 a 6 yn aros am gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru. Gellir dod o hyd i’r codau ymarfer hyn ar ein gwefan.
Yn ogystal, mae’r Comisiynydd yn cefnogi sefydliadau i ddysgu gan ei gilydd drwy gasglu, rhannu a hyrwyddo arferion da sydd ar waith ar draws sefydliadau cyhoeddus yng Nghymru.
Gellir gweld cyfres o astudiaethau achos ar ein gwefan.
Os oes gan eich sefydliad arfer da yr hoffech ei rannu, cysylltwch â’ch swyddog cyswllt i drafod ymhellach.
Recriwtio ac asesu sgiliau Cymraeg
Mae’r Comisiynydd hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad ar recriwtio ac asesu sgiliau Cymraeg.
Er mwyn gallu cynnig gwasanaethau dwyieithog o safon uchel, mae angen i sefydliadau sicrhau bod gan eu gweithlu y sgiliau ieithyddol cywir. Mae nifer o safonau’r Gymraeg yn gosod gofynion penodol ar sefydliadau:
- i ystyried yr angen am sgiliau Cymraeg wrth recriwtio
- i asesu a chofnodi sgiliau Cymraeg staff.
Mae cyngor ac adnoddau ymarferol ar recriwtio, cynllunio’r gweithlu ac asesu sgiliau Cymraeg ar gael ar ein gwefan.
Cyfieithu
Mae safonau’r Gymraeg a cynlluniau iaith yn golygu bod dyletswydd ar lawer o sefydliadau i ddarparu gwasanaethau yn ddwyieithog. Mae cyngor am gyfieithu a chyfieithu ar y pryd yn ogystal a sut i ddod o hyd i gyfieithydd ar gael ar ein gwefan.
Cynllun Hyrwyddo Cydymffurfiaeth
Mae’r Comisiynydd yn gweithredu ar sail cyd‑reoleiddio, gan bwysleisio arweiniad, cefnogaeth ac atal methiannau lle bynnag y bo modd.
Fel rhan o hyn:
- cynhelir rhaglen o ddigwyddiadau a sesiynau drwy gydol y flwyddyn
- datblygir adnoddau a chanllawiau ymarferol newydd,
- a chaiff Porth Adnoddau y wefan ei ddiweddaru’n rheolaidd.
Bydd manylion y cynllun diweddaraf ar gael ar ein gwefan.
- Beth os na allwn ymateb erbyn dyddiad penodol?
Os oes problem gydag ymateb i ddyddiad penodol, dylech gysylltu â’ch swyddog cyswllt cyn gynted â phosibl i drafod.
Noder fod dyddiadau cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol ar gydymffurfiaeth â Safonau’r Gymraeg wedi’u pennu yn y safonau perthnasol. Mae methiant i gyhoeddi adroddiad o fewn yr amserlen honno yn gyfystyr â diffyg cydymffurfiaeth, a gall y Comisiynydd ystyried cymryd camau priodol mewn ymateb i hynny.
-
Beth sydd angen ei gynnwys mewn adroddiad blynyddol?
Safonau’r Gymraeg: Mae’r cynnwys disgwyliedig wedi’i nodi yn y safonau perthnasol yn eich hysbysiad cydymffurfio. Ceir arweiniad pellach yn ein dogfen gyngor Llunio adroddiad blynyddol safonau’r Gymraeg a’r Codau ymarfer sydd ar gael ar wefan y Comisiynydd.
Cynlluniau Iaith Gymraeg: Dylid adrodd ar gynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu, ac unrhyw gamau oedd i’w cwblhau yn ystod y flwyddyn adrodd. Mae templed ar gael - cysylltwch â'ch swyddog cyswllt i drafod.
-
Pryd mae angen cyhoeddi’r adroddiad blynyddol?
Safonau’r Gymraeg: Mae manylion dyddiad cyhoeddi adroddiad blynyddol wedi’i bennu yn y safonau perthnasol yn eich hysbysiad cydymffurfio.
Cynlluniau Iaith Gymraeg: Fel arfer, mae'r cyfnod adrodd yn rhedeg o ddyddiad cymeradwyo’r cynllun hyd at 31 Mawrth. Fodd bynnag, mae modd cytuno ar drefniant gwahanol drwy drafod â’ch swyddog cyswllt.
-
Oes angen anfon copi o’r adroddiad blynyddol at y Comisiynydd?
Safonau’r Gymraeg: Does dim angen anfon copi at y Comisiynydd ond mae croeso ichi wneud. Rhaid cyhoeddi’r adroddiad ar eich gwefan, a sicrhau bod copi ar gael ymhob un o’ch swyddfeydd sy’n agored i’r cyhoedd.
Cynlluniau Iaith Gymraeg: Oes, dylid anfon copi o’ch adroddiad blynyddol at eich swyddog cyswllt erbyn y dyddiad sydd wedi’i gytuno.
-
Pam fod angen cwblhau holiadur hunanasesu pob blwyddyn?
Mae’r hunanasesiad blynyddol yn arf allweddol i sicrhau cydymffurfiaeth barhaus, ac mae’n cefnogi’r canlynol:
Monitro cydymffurfiaeth barhaus: Gan fod gweithgareddau, gwasanaethau a strwythurau sefydliadol yn newid, mae’r hunanasesiad blynyddol yn galluogi sefydliadau i wirio’n rheolaidd bod eu trefniadau’n parhau i gydymffurfio â’r safonau.
Adnabod risgiau a bylchau: Mae’r holiadur yn darparu dull systematig o nodi meysydd lle y gallai cydymffurfiaeth fod yn wan neu’n ansicr, gan greu cyfle i fynd i’r afael â risgiau cyn iddynt ddatblygu’n achosion o fethiant i gydymffurfio.
Sicrhau tryloywder a thystiolaeth: Mae’r wybodaeth a ddarperir yn creu cofnod clir o’r camau a gymerir gan y sefydliad i gydymffurfio â’r safonau. Mae hyn yn bwysig ar gyfer atebolrwydd mewnol ac allanol, ac yn darparu tystiolaeth i Gomisiynydd y Gymraeg o’r trefniadau sydd ar waith.
Hybu gwelliant parhaus: Trwy adolygu’r trefniadau’n flynyddol, gall sefydliadau nodi arferion da, meysydd i’w gwella, a chyfleoedd i gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg i ddefnyddwyr a staff fel ei gilydd.
Cefnogi trefn reoleiddio gyson a theg: Mae’r gofyniad blynyddol yn helpu i sicrhau dull cyson a systematig o fonitro ar draws pob sefydliad sy’n ddarostyngedig i’r un safonau, gan gryfhau cydlyniad a thegwch yn y drefn reoleiddio.
Yn gryno, mae’r hunanasesiad blynyddol yn arf llywodraethu ac ansawdd pwysig sy’n cefnogi sefydliadau i gyflawni eu rhwymedigaethau statudol yn effeithiol ac yn gynaliadwy.
-
Lle gallaf gael bathodynnau Iaith Gwaith a Dysgwyr?
Os hoffech archebu bathodynnau Iaith Gwaith ar gyfer staff sy’n medru siarad Cymraeg yn eich sefydliad, gallwch eu harchebu am ddim drwy lenwi'r ffurflen archeb.
-
Beth yw’r gofynion o ran y safonau atodol?
Mae’r safonau atodol yn sefydlu trefn o adrodd ar gydymffurfiaeth. Maent yn ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau:
-
- lunio a chadw dogfennau penodol
- adrodd ar gydymffurfiaeth
- ddarparu gwybodaeth i’r Comisiynydd pan ofynnir amdani.
Mae manylion pellach ar gael ar dudalen 135 Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015
-
A yw gwasanaethau gan drydydd parti yn dod o dan y safonau/cynlluniau iaith?
Ydynt.Os yw trydydd parti yn darparu gwasanaeth ar ran sefydliad sydd o dan ddyletswydd ieithyddol, rhaid i’r sefydliad sicrhau bod y trydydd parti yn cydymffurfio â’r safonau neu gymalau perthnasol.
Bydd y sefydliadau yn atebol am unrhyw ddiffyg cydymffurfiaeth, ac mae hynny’n gallu arwain at gamau gorfodi.. Mae manylion pellach ar gael ar dudalen 13 Cod Ymarfer i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015.
-
Beth ddylwn i wneud os ydw i’n ymwybodol o ddiffyg cydymffurfiaeth?
- Cofnodi'r broblem
- Hysbysu’r rheolwyr perthnasol
- Cywiro’r mater cyn gynted ag sy’n bosibl
- Adolygu a diwygio prosesau os yw’r broblem yn systemig
- Cadw cofnod llawn o’r camau a gymerwyd
- Cynnwys y mater yn yr adroddiad blynyddol
- Dilyn a monitro effeithiolrwydd y camau a gymerwyd
Gallwch hefyd gysylltu â’ch swyddog cyswllt am gyngor ac arweiniad.
-
Ble gallaf ddod o hyd i gyngor ac arweiniad?
Gellir dod o hyd i gyngor ac arweiniad ar ein gwefan, neu cysylltwch â’ch swyddog cyswllt.
-
A yw gweithgareddau monitro yr un fath i bob sefydliad bob blwyddyn?
Nac ydy. Nid yw gweithgareddau monitro’r Comisiynydd yn unffurf nac yn yr un modd i bob sefydliad bob blwyddyn.
Caiff gwaith monitro ei gynllunio ar sail cyfuniad o ffactorau, gan gynnwys:
-
- lefel a natur y risg i ddefnyddwyr y Gymraeg;
- gwybodaeth a thystiolaeth flaenorol, megis hunanasesiadau neu adroddiadau blynyddol;
- canfyddiadau o arolygon neu waith thematig;
- newidiadau mewn ffwythiannau, trefniadau neu fodelau darparu gwasanaethau.
O ganlyniad, gall monitro gynnwys gwahanol weithgareddau megis hunanasesu, arolygon wedi’u targedu, ymgysylltu uniongyrchol neu adolygiadau thematig. Mae’r dull hwn yn sicrhau bod monitro’n gymesur, yn seiliedig ar risg, ac yn canolbwyntio ar gefnogi cydymffurfiaeth a gwelliant lle mae hynny fwyaf angenrheidiol.
-
A oes angen rhoi gwybod i’r Comisiynydd am newidiadau mewnol (e.e. strwythur neu gyfrifoldebau)?
Os oes newidiadau sylweddol sy’n gallu effeithio ar gydymffurfiaeth (e.e. newid model darparu gwasanaethau, contractio allanol neu newid trefniadau ieithyddol), dylech roi gwybod i’ch swyddog cyswllt fel bod modd ystyried unrhyw oblygiadau ieithyddol.
-
Beth ddylwn i ei wneud os nad wyf yn siŵr a yw safon benodol yn berthnasol?
Dylech gyfeirio at eich hysbysiad cydymffurfio yn y lle cyntaf. Os oes unrhyw ansicrwydd o hyd, cysylltwch â’ch swyddog cyswllt i drafod dehongliad neu gymhwysiad y safon.
-
A oes angen cadw tystiolaeth neu gofnodion hyd yn oed os nad oes problemau wedi codi?
Oes. Mae nifer o safonau (yn enwedig safonau atodol) yn gofyn am gadw cofnodion. Mae cadw tystiolaeth briodol yn helpu i ddangos cydymffurfiaeth, cefnogi hunanasesiad a hwyluso ymateb i unrhyw ymholiadau yn y dyfodol.
-
Beth yw’r berthynas rhwng monitro a gorfodi?
Mae monitro yn canolbwyntio ar ddeall perfformiad, nodi risgiau a chefnogi gwelliant. Dim ond lle nad oes sicrwydd digonol o gydymffurfiaeth, neu lle mae methiannau’n parhau, y caiff camau gorfodi eu hystyried.
Mae'r Comisiynydd yn cynnal gweithgareddau amrywiol yn ystod y flwyddyn fel rhan o'i fframwaith rheoleiddio. Mae disgwyl i sefydliadau i ymateb i unrhyw gyngor ac argymhellion a nodir. Mae'r calendr hefyd yn nodi pa bryd mae disgwyl i sefydliadau adrodd ar faterion penodol i'r Comisiynydd yn unol â'u dyletswyddau statudol.