
Cynnig Cymraeg yw cydnabyddiaeth gan y Comisiynydd i sefydliadau sydd wedi creu cynllun datblygu'r Gymraeg. Dyma gyfle i ddangos i'ch defnyddwyr eich bod yn ymfalchïo yn yr iaith Gymraeg ac yn barod i'w defnyddio.

Cynllun Datblygu’r Gymraeg
Gall y Tîm Hybu eich cefnogi i greu cynllun datblygu’r Gymraeg. Dyma eich cynllun hir dymor ar gyfer datblygu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Ar ôl cyd weithio gyda’r Tim Hybu i greu cynllun cryf, gallwch wneud cais am y Cynnig Cymraeg. Os byddwch yn derbyn cymeradwyaeth y Comisiynydd, bydd hawl gennych i ddefnyddio’r logo arbennig.

Mae'r Tîm Hybu yma i'ch helpu pob cam o'r ffordd wrth i chi:
- weithio gyda ni i lunio eich cynllun datblygu ac adnabod o leiaf pum prif wasanaeth Cymraeg sy’n cael ei ddarparu gennych;
- gyflwyno cais am gydnabyddiaeth swyddogol, a chaniatâd i ddefnyddio’r logo Cynnig Cymraeg;
- rannu eich Cynnig Cymraeg yn fewnol ac yn allanol, gan hyrwyddo, dathlu a mesur effaith.
Os hoffech fwy o wybodaeth cysylltwch â: hybu@cyg-wlc.cymru.
Wythnos y Cynnig Cymraeg
12 i 16 o Fai 2025 yw wythnos y Cynnig Cymraeg
Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg i’r cyhoedd.
Yn ystod yr wythnos byddem yn dathlu llwyddiant sefydliadau sydd wedi derbyn y Cynnig Cymraeg eisoes a’ rheini sydd yn nghanol y broses o fynd amdani. Byddwn hefyd yn codi ymwybyddiaeth o’r gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael i’w defnyddio, ac yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’r gwasanaethau hyn. Gobeithiwn weld mwyfwy o fusnesau ac elusennau yn defnyddio’r iaith ac yn derbyn y gydnabyddiaeth hon.
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y Cynnig Cymraeg mae croeso i chi gysylltu â ni.
Podlediad y Cynnig Cymraeg
Yn ein podlediad mae Mathew Thomas, Pennaeth Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg, yn sgwrsio gyda Hanna Hopwood am waith y tîm ac yn benodol am y Cynnig Cymraeg. Yn ymuno â nhw mae Harri Jones o gymdeithas adeiladu’r Principality. Gwrandewch isod.