- Share icon
- Share on LinkedIn
- Share on Twitter
- Share on Facebook

Ramblers Cymru yw adran Gymreig elusen Ramblers. Mae’r elusen yn gweithio i hyrwyddo cerdded ar gyfer pobl o bob oed, cefndir a gallu, mewn trefi a dinasoedd ac yng nghefn gwlad. Mae ganddynt dros 40 o grwpiau yng Nghymru sy’n cynnig teithiau tywys bob wythnos. Yma, mae Brân Devey, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Ramblers Cymru yn trafod pwysigrwydd y Cynnig Cymraeg i’w gwaith.
Disgrifiwch y broses o baratoi Cynllun Datblygu’r Gymraeg.
Ar ddechrau’r broses o fynd am y Cynnig Cymraeg, roedd swyddogion Tîm Hybu Comisiynydd y Gymraeg yn barod iawn i helpu. Roedden yn egluro’r broses yn fanwl ac yn amlinellu sut fyddai derbyn y Cynnig Cymraeg o ddefnydd i ni fel elusen.
Roedd yn bwysig fy mod yn cynnwys swyddogion o ar draws ein sefydliad ar y siwrnai. Trafodais gyda fy nghydweithwyr yng Nghymru, gwirfoddolwyr, a fy nghyfoedion ym mhrif swyddfa’r Ramblers yn Llundain i sicrhau eu bod nhw yn deall yr anghenion a pham fod y gwaith hyn yn bwysig.
Pam ei fod yn bwysig eich bod wedi derbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg?
Rydym yn rhan o gorff sydd yn gweithredu ar draws y DU, ond mae Ramblers Cymru hefyd yn gorff Cymraeg gyda hanes Cymraeg ac fel sefydliad rydym yn gwerthfawrogi’r iaith a diwylliant Cymru. Mae’r Ramblers hefyd yn gorff cynhwysol, ac mae defnyddio’r Gymraeg yn rhan bwysig o parchu a gwireddu ein gwerthoedd.
Beth yw manteision cynnig gwasanaethau cyfrwng Cymraeg i ddefnyddwyr eich gwasanaeth?
Mae’r Cynnig Cymraeg yn ein gwneud ni yn fwy perthnasol ac yn ein helpu i arddangos balchder yn y Gymraeg. Mae hyn yn ein gwneud ni’n unigryw yn y DU.
Mae hefyd yn ein galluogi i ddenu cynulleidfa newydd i’r corff ac yn ein cynorthwyo i fod yn berthnasol yn y Gymru gyfoes.
Ydy’r Cynnig Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth i’ch gwaith?
Mae’r Cynnig Cymraeg yn rhoi hygrededd i’n hymrwymiad i’r iaith Gymraeg. Mae hefyd yn ein helpu i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg yr ydym yn ei chynnig. Mae cynnig gwasanaeth Cymraeg ehangach yn golygu bod angen mwy o adnoddau arnom ond rydym yn gweld gwerth i hyn.
Fyddech chi'n annog eraill i geisio am y Cynnig Cymraeg, a pham?
Yn bendant. Rydym yn credu fod derbyn cydnabyddiaeth sydd yn ymwneud â’r iaith yn holl bwysig gan ei fod yn ganolog i’n hunaniaeth a diwylliant ein gwlad. Mae’r Cynnig Cymraeg wedi helpu i ddatblygu’r elusen ac mae’n ein gwneud yn fwy perthnasol i’n cynulleidfaoedd.
Pa dri pheth ydych chi'n medru eu cynnig yn y Gymraeg?
- Ymateb yn y Gymraeg i unrhyw ymholiadau gan wirfoddolwyr a’r cyhoedd.
- Cylchlythyr aelodaeth dwyieithog
- Gwybodaeth ddwyieithog ar ein cyfryngau cymdeithasol