Daeth y cyfnod ymgynghori ar ein Polisi Gorfodi i ben ar 29 Ionawr 2025. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb. Mae eich cyfraniad wedi bod yn amhrisiadwy, ac rydym wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl sylwadau a dderbyniwyd.
Yn dilyn y broses hon, rydym bellach wedi cyhoeddi:
- Polisi Gorfodi diwygiedig
- Gweithdrefn Cwynion ac Ymchwiliadau
- Adroddiad ôl-ymgynghori
- Asesiad Effaith Cydraddoldeb
Beth yw’r prif newidiadau yn dilyn y broses ymgynghori?
Mae ein polisi terfynol yn adlewyrchu ymateb ystyriol i’r adborth a dderbyniwyd, ac rydym yn hyderus y bydd yn cefnogi ein nod cyffredinol o wella argaeledd ac ansawdd gwasanaethau Cymraeg i bawb. Mae’r addasiadau rydym wedi eu gwneud yn cynnwys:
- Parhau â’r drefn gyfredol o wahodd sefydliadau i ymateb i gwynion yn uniongyrchol i ni cyn penderfynu a fyddwn yn ymchwilio neu beidio
- Peidio ystyried a yw’r achwynydd wedi cyfeirio’r gŵyn at y sefydliad wrth benderfynu a fyddwn yn ymchwilio neu beidio
- Addasu’r dehongliad o gwynion gwacsaw a blinderus
- Ymrwymiad i roi mwy o wybodaeth am ein gweithdrefn gwynion ac ymchwiliadau ar ein gwefan
- Egluro i ble y bydd cosbau sifil yn cael eu talu
- Rhoi eglurder pellach ar ein trefniadau i sicrhau hygyrchedd y broses a'n hymrwymiad i wneud addasiadau rhesymol (e.e. drwy alluogi cwynion llafar lle bo angen).
Beth yw’r camau nesaf
Byddwn nawr yn cyflwyno’r Polisi Gorfodi i Weinidogion Cymru i gael ei gymeradwyo, yn unol â gofynion Mesur y Gymraeg. Bydd y polisi yn dod yn weithredol unwaith y bydd cymeradwyaeth weinidogol wedi ei roi.
Diolch unwaith eto am eich cyfranogiad a’ch cefnogaeth i’r broses hon.