Rydym yn gweithio gyda busnesau ac elusennau o bob math, o fanciau ac archfarchnadoedd i elusennau cenedlaethol a rhyngwladol.
Gall defnyddio’r Gymraeg arwain at ddenu cwsmeriaid a chefnogwyr newydd, yn o gystal a chynyddu enw da eich busnes neu elusen. Bydd cynyddu eich defnydd o’r Gymraeg yn eich helpu i ddarparu gwell gwasanaeth.
Ydych chi eisiau defnyddio mwy o Gymraeg yn eich busnes neu elusen?
Mae cannoedd o fusnesau ac elusennau eisoes wedi manteisio ar arbenigedd a phrofiad ein tîm. Dyma ambell enghraifft o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig:
- Edrych ar eich defnydd o’r Gymraeg trwy ein holiadur hunanasesu
- Eich helpu i greu Cynllun Datblygu’r Gymraeg i roi ffordd glir ymlaen i’ch busnes neu’ch elusen
- Eich helpu i weithio tuag at gymeradwyaeth swyddogol y Cynnig Cymraeg
- Cymorth un i un i drafod pynciau megis dylunio dwyieithog, cyfryngau cymdeithasol, a recriwtio staff a gwirfoddolwyr
- Cynnal sesiynau hyfforddiant a digwyddiadau rhwydweithio rheolaidd er mwyn rhannu arferion gorau
- Creu canllawiau ymarferol ar sawl agwedd o ddatblygu gwasanaethau Cymraeg
- Eich cefnogi i hyrwyddo eich gwasanaethau Cymraeg er mwyn cynyddu’r defnydd ohonynt
Gallwn esbonio sut i gynllunio yn effeithiol a hwylus i wneud y Gymraeg yn rhan o’ch gweithgareddau bob dydd. Cysylltwch gyda ni am sgwrs: hybu@cyg-wlc.cymru

Cryfhau sgiliau Cymraeg eich gweithlu
Mae’r Tîm Hybu yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi sefydliadau i ddatblygu sgiliau Cymraeg eu gweithlu drwy eu cynllun Cymraeg Gwaith.
Fel rhan o’r broses o dderbyn cymeradwyaeth y Cynnig Cymraeg byddwn yn cyd-weithio gyda’ch sefydliad a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg i gynnig opsiynau gwahanol all gefnogi eich staff, neu gwirfoddolwyr i ddysgu, datblygu, neu godi hyder i ddefnyddio’r Gymraeg.

Iaith Gwaith
Cofiwch am ein cynllun Iaith Gwaith (sef ein bathodyn oren). Gallwch archebu bathodyn neu gortyn gwddf drwy gysylltu â ni.