Cyfle ein cenhedlaeth: Sefyllfa’r Gymraeg 2021–25

Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 yn creu dyletswydd statudol i Gomisiynydd y Gymraeg lunio adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r iaith. Er hyn, nid dyletswydd yn unig yw llunio’r adroddiad hwn i ni. Rydym yn croesawu’r cyfle unigryw i grynhoi sefyllfa’r Gymraeg a chynnig syniadau uchelgeisiol am sut mae gwella’r sefyllfa dros y pum mlynedd nesaf a thu hwnt.  

Rydym wedi amlinellu rhai cynigion uchelgeisiol ac amcanion penodol i newid sefyllfa’r Gymraeg yn ein Maniffesto a’n Cynllun Strategol yn barod. Ond mae’r adroddiad hwn yn darparu cyfle unigryw i ni gamu nôl ac edrych ar y darlun mawr gan amlygu’r prif flaenoriaethau a’r cyfleoedd rydym yn eu gweld i’r cyfnod nesaf.   

Block background image

Cyfle ein cenhedlaeth: Adroddiad 5-mlynedd ar sefyllfa'r Gymraeg

Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Criw yn trafod

Rhan 1: Canlyniadau Cyfrifiad 2021  

Darllenwch ddadansoddiad manwl o ganlyniadau Cyfrifiad 2021 a beth maen nhw’n dangos i ni am sefyllfa’r Gymraeg a’i siaradwyr heddiw. Cofiwch bod modd i chi hefyd wirio’r data eich hunain drwy ddefnyddio ein dashfwrdd data rhyngweithiol.

Pobl ifanc wrth ddesgiau

Rhan 2: Creu Siaradwyr  

Darllenwch Ran 2 sydd yn edrych ar bolisïau allweddol i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, fel gofal plant ac addysg gynnar. Mae hefyd yn ystyried rôl y sector addysg a dysgu Cymraeg i oedolion.

Charmine Smikle

Rhan 3: Cynyddu Defnydd  

Mae’r rhan hon o’r adroddiad yn craffu ar ystadegau sy’n dod o Arolwg Defnydd Iaith (2019–20), ac arolygon eraill, ac yn rhoi sylw i ddatblygiadau polisi allweddol gan gynnwys cynllunio ieithyddol, yr economi a thai, cynllunio gwasanaethau a datblygu gweithleoedd Cymraeg.

Os oes gyda chi sylwadau neu gwestiynau am yr adroddiad 5-mlynedd mae croeso i chi gysylltu gyda ni drwy anfon e-bost at post@cyg-wlc.cymru a dilynwch ni ar ein cyfryngau cymdeithasol, ar Facebook, LinkedIn ac Instagram am fwy o wybodaeth.